Yr Athro Aled Rees
Arweinydd Arbenigol ar Anhwylderau Metabolig ac Endocrin
Mae Aled Rees yn Ddarllenydd ac Endocrinolegydd Ymgynghorol yn yr Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd. Mae ei waith clinigol yn cynnwys pob agwedd ar endocrinoleg gyda ffocws penodol ar niwroendocrinoleg. Graddiodd Dr Rees o Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru ag Anrhydedd. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Hyfforddiant Clinigol Ymddiriedolaeth Wellcome iddo a Chymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Endocrinoleg Glinigol y Gymdeithas Endocrinoleg am ei Ddoethuriaeth yn archwilio sut y rheolir twf tiwmorau pitẅidol. Mae’n Gadeirydd Cymdeithas Endocrin a Diabetes Cymru, yn Uwch-olygydd Clinical Endocrinology ac yn aelod o Gyngor y Gymdeithas Endocrinoleg. Nod ei waith ymchwil presennol yw deall effaith yr amgylchedd hormonaidd yn gynnar mewn bywyd ar wybyddiaeth a niwroddatblygiad, gyda ffocws penodol ar Syndrom Ofarïau Polysystig a chlefyd thyroid.
Yn y newyddion:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)