Allwch chi ein helpu i ddewis enillwyr ein gwobrau?

Rhowch eich barn ar geisiadau am Wobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025

Bydd Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025 yn dathlu cyflawniadau'r gymuned ymchwil yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf. 

Bydd panel o feirniaid yn penderfynu pwy fydd enillydd pob un o'r pedwar categori a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 10 Hydref yng Ngerddi Sophia.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn dyfarniad cyllid o hyd at £250 i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy, neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o'u set sgiliau ymchwil.

 Mae rhagor o wybodaeth am gategorïau’r gwobrau ar ein gwefan.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • Bod â diddordeb neu brofiad mewn adolygu ceisiadau am ddyfarniadau
  • Yn gallu mynychu cyfarfodydd panel ar-lein ym mis Medi 2025 
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Fe'ch gwahoddir i ymuno ag un o'r pedwar panel gwobrwyo a gynhelir ym mis Medi 2025. Eich rôl chi fydd adolygu'r holl geisiadau am y wobr a sgorio pob un yn ôl y canllawiau. Wrth gyflwyno eich ffurflen mynegi diddordeb, rhowch wybod pa banel gwobrwyo yr hoffech fod yn rhan ohono.

Pa mor hir fydd fy angen?

Gofynnir i chi adolygu'r holl geisiadau a gyflwynir ar gyfer pob gwobr. Mae'r amser a gymerir i adolygu'r rhain yn dibynnu ar faint o geisiadau a dderbynnir. Gofynnir i chi fynychu un o'r cyfarfodydd panel canlynol hefyd, a fydd yn para 1.5 awr. 

  • Gwobr ymgorffori ymchwil mewn arfer – 10 Medi 10am-11:30am
  • Gwobr cynnwys y cyhoedd – 10 Medi 2pm – 3:30pm
  • Gwobr effaith iechyd a gofal cymdeithasol – 11 Medi 10am – 11:30am
  • Gwobr seren ymchwil y dyfodol – 11 Medi 2pm – 3:30pm

Rhowch wybod i ni pa banel yr hoffech gael eich ystyried ar ei gyfer.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Helpu i ddathlu rhagoriaeth ymchwil yng Nghymru
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu, adolygu dogfennau a gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • Magu hyder wrth rannu eich barn a dylanwadu ar benderfyniadau
Pa gefnogaeth a gynigir?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth)
  • Byddwch yn cael eich cefnogi gan aelod o'r tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys i fynychu'r cyfarfod panel

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm