person workshop community student conversation education

Cymuned ymholi

Beth yw Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth – DEEP? Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

Er bod arfer myfyriol a chydgynhyrchu yn cael eu hyrwyddo’n eang, gall eu gwireddu yn dipyn o her. Rydyn ni i gyd yn gweld y byd yn wahanol a gall dod â phobl â bwriadau da at ei gilydd i siarad olygu bod pawb yn teimlo'n rhwystredig os nad yw'r sgyrsiau'n mynd yn dda. 

Mae cymuned ymholi yn cefnogi pobl i archwilio pwnc mewn ffordd sy'n gynhwysol, ond eto'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi anghytundeb myfyriol. Mae’n helpu cyfranogwyr i fynd yn ‘DEEP’ wrth archwilio thema neu fater ac yn cynhyrchu hadau ar gyfer gweithredu. 

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan DEEP os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.

-

Online