Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth – DEEP
Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchiol o archwilio a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth wrth ddatblygu polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol.
Mae ganddo bwyslais cryf ar ffyrdd perthynol o ddysgu a chydweithio gan ddefnyddio straeon a deialog fyfyriol. Y mae wedi’i seilio ar bum egwyddor:
- Creu amgylchedd gofal a dysgu wedi'i gyfoethogi
- Gwerthfawrogi a defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth
- Casglu a chyflwyno tystiolaeth mewn fformatau ystyrlon
- Siarad a meddwl yn effeithiol gyda'n gilydd am fathau amrywiol o dystiolaeth
- Cydnabod a mynd i'r afael â rhwystrau strwythurol
Mae'r fenter hon yn gweithio i ymgorffori'r dull DEEP mewn sefydliadau partner. Bydd adnoddau DEEP ar gael ar-lein a bydd unigolion sydd â diddordeb yn cael eu cynorthwyo i fod yn sbardunau DEEP drwy gwricwlwm dysgu a mentora. Mae DEEP hefyd yn cefnogi nifer o Grwpiau Datblygu Ymchwil ac Ymarfer ac yn ceisio gwella gallu ymchwil ym maes gofal cymdeithasol, gan weithio ochr yn ochr â'r seilwaith datblygu ymchwil.