Female delegates chatting

Cynhadledd Ymchwil Canser Cymru 2024

Mae Cynhadledd Ymchwil Canser Cymru 2024 yn gyfle i ymchwilwyr canser yng Nghymru ag arbenigeddau gwahanol, ac o sefydliadau a meysydd ymchwil gwahanol gwrdd â’i gilydd. Gyda siaradwyr o Gymru a’r DU, bydd cyflwyniadau’n ymdrin â’r datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil canser, a bydd cyfleoedd i gwrdd â chydweithwyr yn helpu i ysgogi partneriaethau yn y dyfodol.

Gellir cyflwyno crynodebau sy'n ymwneud ag un o themâu CReSt cyn 20 Rhagfyr, a bydd hyd at 40 o grynodebau'n cael eu dewis ar gyfer cyflwyno poster.

Dilynir y gynhadledd gan dderbyniad rhwydweithio yn orielau celf yr amgueddfa.

Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly argymhellwn i chi gadw eich lle yn gynnar.

This conference is being run by the Wales Cancer Research Centre if you have any questions, please contact the event team.

-

National Museum, Park Place, Cardiff