happy people

Eiliadau hud ac eiliadau trasig

Beth yw Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth – DEEP? Mae DEEP yn ddull cydgynhyrchu o gasglu, archwilio, a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth mewn dysgu a datblygu gan ddefnyddio dulliau stori a deialog.

P’un a ydych yn darparu neu’n comisiynu gwasanaethau, mae’n bwysig cael mesur o ansawdd profiadau pobl a dysgu oddi wrthynt. Er y gellir dal hyn yn rhannol drwy arolygon, mae cydnabyddiaeth gynyddol y gall straeon pobl fod yn fwy pwerus wrth werthuso sy’n canolbwyntio ar ddysgu. Mae casglu tystiolaeth o brofiadau pobl wedi’i gynnwys yn Fframwaith Perfformiad a Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Bydd y sesiwn hanner diwrnod hwn yn cyflwyno pobl i ddull syml ac ymarferol o gasglu a dysgu o straeon profiad pobl. Gan ddechrau gydag amlinelliad o’r egwyddorion y tu ôl i Gyd-ddylunio ar Sail Profiad (Bate a Robert, 2007), bydd yn mynd ymlaen i egluro sut i gasglu ‘eiliadau hud’ ac ‘eiliadau trasig pobl.’ Bydd yn cloi gydag archwilio sut y gall y straeon hyn cael ei ddefnyddio fel catalydd ar gyfer dysgu a datblygu. 

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan DEEP os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.

-

Online