Gweminar y gyfadran: Cynnwys pobl hŷn mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gyda Dr Victoria Shepherd
Gall fod yn heriol recriwtio pobl hŷn i waith ymchwil, sy’n golygu eu bod yn aml yn cael eu heithrio o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y gweminar hwn yn rhoi cyngor ymarferol i gynorthwyo ymchwilwyr i sicrhau bod eu hymchwil yn cynnwys y grŵp hwn na wasanaethir yn ddigonol ac i gynyddu nifer y bobl hŷn sy’n cymryd rhan mewn ymchwil.
Amlinellir pwysigrwydd cynllunio astudiaethau cynhwysol, ynghyd â dulliau o wneud y gorau o brosesau recriwtio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys cartrefi gofal, a'r heriau o gynnwys pobl hŷn ag amhariad ar eu gallu a'r rhai o grwpiau lleiafrifol. Bydd y rôl bwysig o gynnwys pobl hŷn mewn gweithgarwch cynnwys y cyhoedd hefyd yn cael ei drafod.
Mae Dr Shepherd yn Brif Gymrawd Ymchwil ac yn nyrs gofrestredig yn y Ganolfan Treialon Ymchwil lle mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gwella cynhwysiant poblogaethau na wasanaethir yn ddigonol, gan ganolbwyntio’n benodol ar boblogaethau a lleoliadau lle gall cydsyniad ar sail gwybodaeth fod yn heriol ac ymchwil sy’n cynnwys pobl hŷn.
Mae hi’n arwain rhaglen o ymchwil methodolegol sy’n archwilio’r materion moesegol, cyfreithiol ac ymarferol yn ymwneud ag ymchwil, sy’n cynnwys oedolion â diffyg gallu i gydsynio, a datblygu ymyriadau cymhleth i fynd i’r afael â’r rhwystrau i gynhwysiant
Mae hi hefyd yn rhoi’r gwaith hwn ar waith ar yr un pryd mewn ystod o astudiaethau iechyd a gofal cymdeithasol, drwy arwain ymchwil fethodolegol sydd wedi’i hymgorffori i archwilio a mynd i’r afael â’r rhwystrau a wynebir mewn poblogaethau a chyd-destunau penodol. Mae ei gwaith yn cyfrannu at ganllawiau cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn cael ei ddyfynnu gan gyllidwyr ymchwil a sefydliadau llywodraethu.
Cyflwynwch eich cwestiwn i Victoria ei ateb yn ystod y weminar.