Woman at front of room talking to audience

Gweminar y Gyfadran – Tuag at dreialon clinigol mwy effeithlon gyda dyluniadau addasol a meistr-brotocolau, gyda Dr Philip Pallmann

Yn y weminar hon, bydd Dr Philip Pallmann yn cyflwyno dyluniadau addasol fel ffordd i wneud treialon clinigol yn fwy hyblyg ac effeithlon. Mae dyluniadau addasol yn caniatáu newidiadau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw i dreialon sy’n mynd rhagddyn nhw, ar sail dadansoddiad interim o ddata sy’n cronni, heb gyfaddawdu cywirdeb yr ymchwil neu ddilysrwydd ei darganfyddiadau. Gall addasiadau fel mireinio’r boblogaeth cleifion, addasu’r targed recriwtio, neu ddod â’r treial cyfan i ben yn gynnar arwain at dreialon mwy effeithlon, mwy addysgiadol a/ neu fwy moesegol na dyluniadau ‘penodedig’ traddodiadol. Mae modd rhoi dyluniadau addasol ar waith trwy gydol y broses datblygu clinigol, o astudiaethau cynnar gydag ychydig o gyfranogwyr i deialon cadarnhaol mawr mewn cyfnodau hwyrach.

Bydd y sesiwn yn cynnwys taith wib i esbonio’r dyluniadau addasol sydd ar gael, gydag esboniadau annhechnegol o’u nodweddion a’u buddion posibl, gydag enghreifftiau o dreialon go iawn i ddarlunio hyn, yn ogystal â throsolwg ar y cysyniad cysylltiedig o feistr-brotocolau a roddir ar waith mewn dyluniadau platfform, basged ac ymbarél. Dygir sylw at rai heriau ymarferol a sut y gellir goresgyn y rhain. Bydd yna ddigon o amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.

Mae Dr Philip Pallmann yn Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ystadegau yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ac mae’n cydarwain Gweithgor Dyluniadau Addasol Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon MRC-NIHR.

Anfonwch eich cwestiwn i Philip ei ateb yn ystod y weminar

 

-

Online