Dynes gwallt blonde gyda sbectol gyda gwên fawr

Gweminar y Gyfadran – Yr hyn y mae panel rhaglen HTA NIHR yn edrych amdano mewn cais cystadleuol am gyllid, gyda'r Athro Kerry Hood

Bydd yr Athro Kerry Hood yn mynd trwy’r gwahanol fathau o geisiadau i raglen Asesu Technoleg Iechyd (HTA) a’i chyfnodau, a’r hyn y mae paneli yn edrych amdano.

Seilir hyn ar brofiadau o chwe mlynedd o fod ar Fwrdd Cyffredinol HTA sy'n ystyried ceisiadau ar gyfer cyfuno tystiolaeth a gwneud ymchwil sylfaenol.

Gall y galwadau y mae’r rhain yn ymateb iddyn nhw fod dan arweiniad ymchwil, wedi'u comisiynu neu yn briff eang a chaiff y gwahaniaeth rhwng y rhain ei esbonio. Bydd hyn hefyd yn cynnwys yr hyn rydyn ni’n edrych amdano mewn ymatebion i adborth y panel a sylwadau adolygwyr.

Fe fydd yna gyfleoedd ar gyfer holi ac ateb.

Mae’r Athro Kerry Hood yn Uwch Arweinydd Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Treialon y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei hariannu.

Anfonwch eich cwestiwn i Kerry ei ateb yn ystod y weminar

 

-

Online