Kerry Hood

Yr Athro Kerry Hood

Cyfarwyddwr & Uwch Arweinydd Ymchwil

Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (Ebrill 2020- Mehefin 2021)

Teitl y prosiect: Evaluate the impact of a medicines Safety Needs Indicator Tool in Child Health (SNITCH)


Mae gan yr Athro Hood radd a doethuriaeth mewn Ystadegau ac mae wedi gweithio ym maes ystadegau meddygol ers 1996,  Treuliodd ran gyntaf ei gyrfa yn canolbwyntio ar ymchwil gofal sylfaenol ac yna yn 2006 sefydlodd Uned Treialon De-ddwyrain Cymru a dechreuodd ddatblygu portffolio ymchwil ehangach.  Mae ei diddordebau ymchwil methodolegol penodol mewn dylunio treialon, mesur canlyniadau a chynnwys ymchwil gyda ffocws penodol ar dreialon cymhleth.  Y prif feysydd sy’n derbyn ei sylw yw gofal sylfaenol, heintiau ac anableddau dysgu.  Mae hefyd yn gyd-arweinydd Gweithgor y Bartneriaeth Treialon Ymchwil Methodoleg ar gyfer Cynnal Treialon.

Mae’r Athro Hood yn cydweithio’n eang ar draws y DU ac Ewrop ar astudiaethau ymchwil gan ystod eang o gyllidwyr, gan gynnwys NIHR, UKRI, yr UE a diwydiant.  Mae ganddi fwy na 300 o gyhoeddiadau ymchwil wedi’u hadolygu gan gymheiriaid ac mae’n ddeiliad £20 miliwn o grantiau ymchwil ar hyn o bryd.  Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol a’r Academi Addysg Uwch ac yn aelod o’r Gymdeithas Gofal Sylfaenol Academaidd.  Mae’r Athro Hood yn awyddus i ddatblygu llwybrau gyrfa i ymchwilwyr ac mae’n fentor ar gynllun mentora Gwyddonwyr Gofal Iechyd Sylfaenol (PHoCuS) y Gymdeithas Gofal Sylfaenol Academaidd  ac mae hefyd yn mentora myfyrwyr meddygol israddedig.


Yn y newyddion:

Cymru i chwarae rhan bwysig mewn treial cenedlaethol ar gyfer brechlyn COVID-19 (Mai 2022)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

“Rwy’n cymryd rhan er mwyn fy mab” - treial gwrthfeirysol COVID-19 yn recriwtio 1000fed cyfranogwr yng Nghymru (Mawrth 2022)

Os ydych wedi derbyn prawf COFID-19 positif, gallwch chi fod o gymorth mawr i ymchwilwyr (Ionawr 2022)

Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth ddod o hyd i frechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol 

Cymru i chwarae rhan allweddol mewn astudiaeth gwrthfeiral i driniaethau newydd ar gyfer COFID-19 dros y DU gyfan (Rhagfyr 2021)

Sefydliad

Canolfan Treialon Ymchwil

Cysylltwch â Kerry

E-bost

Ffôn: 02920 687163

Twitter