Red4Research banner

#Red4Research 2025

Caiff diwrnod #Red4Research eleni ei gynnal ddydd Gwener 20 Mehefin.

Sefydlwyd #Red4Research Day gan Sally Humphreys, Cadeirydd Gweithgor Rheoli Ymchwil Fforwm Ymchwil a Datblygu, yn 2020 fel ffordd o ddiolch i'r timau ymchwil anhygoel sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu diagnosteg a thriniaethau newydd.

Nid yw ymchwil yn cael ei wneud gan unigolion sy'n gweithio ar wahân, mae ond yn bosibl gan bobl ledled y byd yn gweithio gyda'i gilydd.  

Mae #Red4Research wedi cael cefnogaeth gan bobl yn America, Awstralia, Chile, yr Eidal, Sbaen, Malaysia ac India yn ogystal â'r DU, lle dechreuodd.

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn ein dathliadau #Red4Research 2025, dyma'ch cyfle i rannu beth mae ymchwil yn ei olygu i chi a'ch tîm, yr effaith y mae'n ei gael a pham ei fod mor bwysig.   

Helpwch ni i ddwyn sylw at yr holl bobl anhygoel sy'n gwneud i ymchwil ddigwydd ledled Cymru ar ddiwrnod #Red4Research eleni.

Sut i gymryd rhan: 

Cyflwynwch lun, eich lleoliad a rhywfaint o wybodaeth dros e-bost cyn y dyddiad cau o 5:00pm ar 26 Mai.

Beth yr hoffem gennych chi:

Llun ohonoch chi neu'ch tîm yn gwisgo coch - y mwyaf coch, gorau oll! 

  • Gallech ddangos i ni'r lleoedd rydych chi'n gweithio neu'n byw, a'i wneud yn unigryw i Gymru.      Allwch chi gael tirnod Cymreig adnabyddadwy yn eich llun?
  • Gallech ddefnyddio propiau – tedi draig goch, pêl glan môr Red4Research y flwyddyn flaenorol, gobennydd coch, gorwedd ar dywel coch ar draeth, ac ati.  

Eich lleoliad 

Ychydig o wybodaeth amdanoch chi neu'ch tîm 

  • Rhowch gwpl o linellau amdanoch chi'ch hun e.e.
  • Fy enw i yw... Rwy'n gweithio fel ... yn... ac rwy'n mwynhau ymweld â'r traeth
  • Rwy'n fwyaf balch o ... NEU am y tîm e.e.: 
    Dyma'r tîm ... ac rydym wedi'u lleoli yn ....ac eleni rydym wedi gwneud ... o astudiaethau ymchwil / wedi helpu ... o gleifion i gymryd rhan mewn ymchwil neu debyg.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 5:00pm ar 26 Mai 2025

Yr hyn y byddwn yn ei wneud 

Ar ôl i ni dderbyn lluniau gan y gwahanol dimau ledled Cymru, byddwn yn creu map gyda phinnau sy'n dangos eich lluniau, eich lleoliadau what3word a'r llinellau am y bobl/timau yn y lluniau. 

Angen ysbrydoliaeth? 

Edrychwch ar rai o'n digwyddiadau blynyddoedd blaenorol: 

2024 - Mae ein draig ymchwil yn rhuo ar gyfer #Red4Research

2023 - Mae peli glan môr yn teithio ar draws Cymru yn arddangos y bobl y tu ôl i'r ymchwil

2022 - Mae tirnodau Cymreig allweddol yn cael eu goleuo i anrhydeddu ymchwil a all newid bywydau

-

ar-lein - Cymru