Cydgrynhoi Arfer Clinigol Da (GCP)

Rhagofynion: Cwblhau e-ddysgu GCP ar-lein yn ystod y 6 mis diwethaf

Hwylusir y cwrs gan: Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Hyd y Cwrs: 3 awr

Amlinelliad o’r Cwrs:

Gweithdy ymarferol wedi'i gynllunio i ganiatáu i ddysgwyr archwilio a chymhwyso'r wybodaeth y maent wedi'i hennill o'r cwrs e-ddysgu GCP gyda chefnogaeth hwyluswyr GCP profiadol.

Bydd y gweithdy rhyngweithiol ac atyniadol hwn yn atgyfnerthu dysgu allweddol o’r Cyflwyniad i e-ddysgu GCP. Bydd dysgwyr yn cwblhau gweithgareddau a thrafodaethau grŵp i adeiladu ar eu dealltwriaeth o gydrannau allweddol GCP. Bydd hwyluswyr yn defnyddio enghreifftiau bywyd go iawn i ddangos pwyntiau allweddol a chynorthwyo dysgu. Mae pwyslais ar y cyd ar dreialon clinigol o gynnyrch meddygol archwiliol (CTIMPs)(astudiaethau cyffuriau) a rhai nad ydynt yn CTIMPs, yn ogystal ag ymchwil glinigol a gofal ehangach a'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y cwrs gan gynnwys atebion i rai cwestiynau a ofynnir yn aml, ewch i'n postiad blog.

Manylion y cwrs:

Bydd y cwrs byr hwn yn cyflawni’r canlynol:

  • Diweddaru dysgu GCP craidd o'r e-ddysgu
  • Nodi prosesau lleol y mae angen i ddysgwyr eu gwybod
  • Sicrhau safon ansawdd ledled y DU ar gyfer hyfforddiant cydgrynhoi GCP

Bydd fformat y cwrs yn cynnwys cyflwyniadau, sesiynau rhyngweithio a thrafodaethau.

Yn dilyn yr hyfforddiant, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Trafod y broses ddichonoldeb a'i phwysigrwydd
  • Dangos asesiad o gymhwyster
  • Gwerthfawrogi pwysigrwydd monitro, archwilio ac arolygu
  • Dangos dealltwriaeth o'r dull casglu data trwy ddata ffynhonnell a chwblhau ffurflen adroddiad achos (CRF)
  • Diffinio dosbarthiad digwyddiadau diogelwch yn briodol
  • Adnabod gwahanol ffynonellau o wybodaeth ddiogelwch
  • Rhoi enghreifftiau o ddogfennau astudio a sut i'w rheoli'n gywir

Ardystiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD):

Bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif am gymryd rhan yn y gweithdy hwn, fodd bynnag, bydd tystysgrif e-ddysgu GCP yn ddigonol ar gyfer ffeil y safle.

Mae’r cwrs hwn yn werth 2 gredyd CPD

Face to Face: Cochrane Building, University Hospital of Wales, Cardiff (Mai/May 2024)

-

Sesiwn rithwir / Virtual session (Gorffennaf/July 2024)

-

Face to face: ILS1 Swansea University, Swansea (Gorffennaf/July 2024)

-

Sesiwn rithwir / Virtual session (Medi/September 2024)

-

Face to face: University Hospital of Wales, Cardiff (Hydref/October)

-

Face to face: ILS1 Swansea University, Swansea (Tachwedd/November 2024)

-

Sesiwn rithwir / Virtual session (Tachwedd/November 2024)

-

Sesiwn rithwir / Virtual session (Ionawr/January 2025)

-

Sesiwn rithwir / Virtual session (Mawrth/March 2025)

-

Cofrestriad

Noder: Argymhellir bod dysgwyr yn cwblhau e-ddysgu GCP Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn ystod y 6 mis diwethaf cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn, ond nid yw hyn yn orfodol.