Grŵp o bobl yn cerdded

Rhyddhau hyfforddiant Cyflwyniad i Arfer Clinigol Da ar ffurf newydd

Mae ffurf newydd ar gyfer hyfforddiant Cyflwyniad i Arfer Clinigol Da (GPC) yn cael ei ryddhau ledled y DU. Bydd yr hyfforddiant Cyflwyniad i GPC nawr yn cynnwys:

  • Rhan A, E-ddysgu gorfodol, trwy NIHR Learn, sy’n agored i bob ymchwilydd ledled y DU
  • Rhan B, Sesiwn Cydgrynhoi GPC dewisol – wedi’i chyflwyno’n lleol, ar draws y DU, mewn sesiynau wyneb yn wyneb neu rithwir gyda hwyluswyr GPC profiadol yn eich rhwydwaith

Oherwydd y pandemig bu’n rhaid dod â’r holl hyfforddiant GPC wyneb yn wyneb ledled y DU i ben a chafodd ymchwilwyr eu cyfeirio at y cwrs e-ddysgu fel yr unig ddewis a oedd ar gael. Yng Nghymru, gwnaethom greu cwrs Hanfodion GPC byr, rhithiol i ategu’r e-ddysgu, a gwnaeth llawer o’r Rhwydweithiau Ymchwil Clinigol Lleol yn Lloegr ddilyn yr un drefn.

Casglodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) adborth gan gyfranogwyr y cwrs a gwnaethant ddarganfod, er bod pobl o’r farn bod yr e-ddysgu’n drylwyr ac yn hawdd mynd ato, bod llawer o ymchwilwyr yn teimlo eu bod yn colli cyfle o ran dyfnder y ddealltwriaeth a’r natur ymarferol y mae sesiynau wyneb yn wyneb yn eu cynnig. Gwnaeth pobl sylwadau hefyd ar fanteision gallu cael mynediad at hyfforddiant ar wahanol ffurfiau, yn enwedig lle y gall teithio neu amser fod yn broblem o ran cael y cyfle i fanteisio ar hyfforddiant.

Yn dilyn adolygiad, penderfynwyd y byddai model newydd ar gyfer hyfforddiant GPC yn cael ei gyflwyno ledled y DU - gan arwain at sesiwn Cydgrynhoi GPC. Bydd ymchwilwyr yn cwblhau’r rhan A e-ddysgu GPC i ennill eu ‘Tystysgrif GPC’ cydnabyddedig yna yn cael y dewis i fynychu sesiwn rhan B Cydgrynhoi GPC, naill ai’n rhithiol neu drwy sesiwn leol wyneb yn wyneb. Mae’r sesiwn Cydgrynhoi GCP yn cynnwys gweithgareddau ymarferol sy’n defnyddio enghreifftiau astudio’r byd go iawn i ddod â’r dysgu’n fyw a rhoi dealltwriaeth ddyfnach.

Bydd cynrychiolwyr yn derbyn tystysgrif ychwanegol am fynychu sesiwn Cydgrynhoi GCP, ond bydd tystysgrif e-ddysgu GPC yn ddigonol ar gyfer ffeil y lleoliad.

Mae rheolwyr hyfforddiant o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cymryd rhan weithredol yng ngweithgor Cydgrynhoi GCP, gan gyfrannu at y gweithgareddau newydd ac adolygu cynnwys. Rydym yn llawn cyffro i allu cyflwyno’r deunydd newydd hwn i ymchwilwyr yng Nghymru, ac yn hapus i ailgyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb yn araf deg unwaith eto.

Nid yw newidiadau i Gwrs Gloywi GPC wedi’u penderfynu eto. Mae hwn ar gael ar ffurf e-ddysgu yn unig ar hyn o bryd ond mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ei ddatblygu.

Rhannodd y cynrychiolwyr adborth am fynychu ein sesiynau hyfforddi:

Fe wnes i fwynhau’r hyfforddiant hwn yn fawr a byddwn i’n ei argymell i unrhyw un arall sy’n mynd i gymryd rhan mewn ymchwil" Mynychwr yr hyfforddiant

Cwrs difyr iawn gyda hyfforddwyr gwych a wnaeth i mi deimlo wedi fy nghynnwys ac wedi fy annog i gymryd rhan"Mynychwr yr hyfforddiant

Mae’n wych cael hwyluswyr gydag amrywiaeth o brofiad ymchwil o le y gallan nhw ddod â phrofiadau gwirioneddol sy’n berthnasol i’r hyfforddiant"Mynychwr yr hyfforddiant

Cwestiynau Cyffredin sesiwn Cydgrynhoi GPC

Cwestiynau Cyffredin sesiwn Cydgrynhoi GPC

Beth sydd wedi newid o’r hen ddeunydd GPC wyneb yn wyneb?

Mae’r enghreifftiau wedi eu hadnewyddu a’u diwygio, mae pwyslais ar y cyd ar dreialon clinigol o gynnyrch meddyginiaethol ymchwiliol (CTIMP) (astudiaethau cyffuriau) a rhai nad ydynt yn dreialon clinigol o gynnyrch meddyginiaethol ymchwiliol, yn ogystal ag ymchwil glinigol ac ymchwil gofal a chymunedol ehangach. Nid yw’r e-ddysgu GPC wedi ei newid.

A oes angen i ni fynychu’r Sesiwn Cydgrynhoi GPC?

Na, dim ond e-ddysgu GPC sy’n orfodol i’r rhai sydd angen tystysgrif GPC ddilys ar gyfer eu gwaith. Mae’r cwrs Cydgrynhoi GPC yn gwrs dewisol y gallwch chi ddewis ei gwblhau i gael dealltwriaeth ddyfnach.

A ddylai dysgwyr fod wedi mynychu cwrs e-ddysgu GPC cyn mynd i’r gweithdy GPC?

Dylent, mae hyn yn ofyniad er mwyn cael lle yn y gweithdy hwn, gan ei fod yn ymwneud â rhoi’r wybodaeth y mae dysgwyr wedi’i chael o’r e-ddysgu ar waith.

A oes rhagofyniad o ran pryd mae dysgwr wedi cwblhau’r cwrs e-ddysgu a phryd y dylai gwblhau’r gweithdy hwn?

Rydym yn argymell y dylai e-ddysgu fod wedi’i gwblhau yn ystod y 6 mis diwethaf.

Beth am ardystiad ar gyfer y gweithdy hwn?

Bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif ychwanegol am fynychu sesiwn Cydgrynhoi GPC, fodd bynnag, bydd tystysgrif e-ddysgu GCP yn ddigon ar gyfer ffeil y lleoliad.

Pam nad yw Cydsyniad Deallus wedi’i gynnwys yn y cwrs Cydgrynhoi GCP?

Mae’r cwrs e-ddysgu GPC yn cynnwys llawer iawn ar y pwnc Cydsyniad Deallus. Teimlwyd hefyd fod y sesiynau hyfforddi cydsyniad dan arweiniad hwylusydd, sy’n cael eu cynnal gan rwydweithiau unigol ar draws y DU, gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn darparu’r wybodaeth hon yn fanylach. Mae hyn hefyd yn cael ei ategu gan y modiwlau cydsynio deallus arbenigol ar NIHR Learn ar gyfer gwahanol gymunedau a grwpiau agored i niwed. Byddwn yn cyfeirio at hyn yn ystod y cwrs Cydgrynhoi GPC.