Arweinydd ymchwil Cymru yn derbyn proffesoriaeth anrhydeddus
22 Awst
Mae Dr Nigel Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil ac Arloesi Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, wedi ennill proffesoriaeth anrhydeddus yn Uned Treialon Clinigol Ysgol Feddygol Prifysgol Warwick am ei gyfraniad i ymchwil.
Dros y blynyddoedd, mae'r Athro Rees wedi helpu i sicrhau cyllid gwerth £15 miliwn ar gyfer prosiectau ymchwil ac arloesi ac mae wedi bod yn Brif Ymchwilydd ar dreialon ar raddfa fawr gan gynnwys PARAMEDIC-2 a oedd yn edrych ar y defnydd o adrenalin mewn ataliadau'r galon y tu allan i'r ysbyty a RIGHT-2 a ymchwiliodd i ymyrraeth gyflym ar gyfer strôc.
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys treialon clinigol, ymchwil ansoddol, trais ac ymddygiad ymosodol tuag at staff ambiwlans ac yn fwyaf diweddar ymchwilio i effeithiolrwydd a Diffibrilwyr a Ddarperir gan Ddrôns.
Dywedodd yr Athro Rees, sydd wedi derbyn dyfarniad Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Frenhines yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn flaenorol am wasanaeth rhagorol: "Hoffwn ddiolch i Brifysgol Warwick, fy nghydweithwyr yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a phobl Cymru a thu hwnt sy'n parhau i gefnogi ymchwil ac sy'n cael eu hadlewyrchu yn yr anrhydedd hon."
Mae'r Athro Rees wedi arwain a chyfrannu at fwy na 100 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid.
Mae'n Olygydd Cyswllt y cyfnodolyn Parafeddygaeth ac yn aelod o lawer o baneli a grwpiau ariannu, gan gynnwys Comisiwn Bevan, Grŵp Arweinyddiaeth Ymchwil ac Arloesi GIG Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal.
Dywedodd Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y mae Nigel yn Brif Ymchwilydd iddo: "Rydym wrth ein bodd bod Nigel wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad a'i ymrwymiad i ymchwil dros nifer o flynyddoedd.
"Rydym yn falch o'i gefnogi, fel ymchwilydd, ond hefyd yn y rôl arweiniol sydd ganddo yng Nghymru fel Arweinydd Ymchwil a Datblygu yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru."
Dywedodd yr Athro Gavin Perkins, Deon Ysgol Feddygol Warwick: "Mae ei benodiad yn cydnabod ei gyfraniad sylweddol a pharhaus i ymchwil sydd wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu'r dystiolaeth sydd ei hangen ar y GIG i drawsnewid gwasanaethau a gwella canlyniadau i gleifion a'u teuluoedd."
Mae prifysgolion yn rhoi teitlau er anrhydedd i'r rhai sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i fusnes academaidd, fel arfer drwy gydweithio ar ymchwil, addysgu clinigol neu'r ddau.
Cadwch i fyny gyda holl waith ymchwil diweddaraf o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a sefydliadau ymchwil eraill ledled Cymru drwy gofrestru ar gyfer ein bwletin.