llun o daflen rhywun

Astudiaeth Ease-P: A all fideos hunangymorth drin poen sawdl?

11 Tachwedd

Mae'r tîm podiatreg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnal astudiaeth newydd i helpu pobl sy'n dioddef poen yn eu sawdl.

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb cyfnod cynnar hon yn caniatáu i grŵp bach o gleifion roi cynnig ar fideos hunangymorth wrth aros am apwyntiad podiatreg a rhoi adborth arnynt.

Dywedodd Kerry Nyland, Swyddog Ymchwil Ysbyty Athrofaol Cymru, sy'n cynnal yr astudiaeth hon: "Rydym wedi cyffroi i fod yn cynnal yr ymchwil hwn i gefnogi cleifion â Plantar Fasciitis, achos mwyaf cyffredin poen yn y sawdl. I rai cleifion mae'r boen yn effeithio'n ddifrifol ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Bydd yr ymchwil hwn yn caniatáu i ni ddarganfod a yw'r fideos yr ydym wedi’u gwneud yn ddefnyddiol ac a ellir eu defnyddio yn rhan o ymyriad cynnar i helpu i wella'n gyflymach.

"Mae wedi bod yn gyfle gwych i mi weithio gyda thîm podiatreg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Maen nhw’n dîm ymroddedig sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad i ofal o ansawdd uchel drwy gymryd rhan mewn ymchwil."

Cefnogir yr astudiaeth hon gan grant cymrodoriaeth a ariennir gan Gydweithrediad Meithrin Gallu Ymchwil Cymru (RCBC Cymru) drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Pwy all gymryd rhan yn yr ymchwil hwn?

Gwahoddir cleifion sydd newydd ymuno â'r rhestr aros podiatreg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, sy'n cael ei chynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

I gael gwybod mwy am yr astudiaeth hon, cysylltwch â Kerry Nyland (Swyddog Ymchwil) drwy e-bost (kerry.nyland@wales.nhs.uk) 

Gallwch hefyd ddarllen blog Kerry Nyland am yr ymchwil hwn.

Dysgwch fwy am gymuned ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.