RCBCWales logo

Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC Cymru)

Mae RCBC Cymru (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru) yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn gydweithrediad rhwng adrannau nyrsio a iechyd perthynol chwe phrifysgol yng Nghymru: Prifysgolion Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Glyndŵr, Abertawe a De Cymru.

Diben y cydweithrediad ydy cynyddu capasiti ymchwil ym maes nyrsio, bydwreigiaeth, y proffesiynau iechyd perthynol a fferyllwyr ar draws Cymru. Mae’n gwneud hyn drwy nifer o gynlluniau sy’n cynnwys PhDs a Chymrodoriaethau Ôl-Ddoethurol 'Newydd i Ymchwil/First into Research'.

Mae pob aelod o’r cynllun yn ymuno â Chymuned yr Ysgolheigion, amgylchedd colegol yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn sy’n cynnig mentora a dosbarthiadau meistr mewn dulliau ymchwil ac arweinyddiaeth ymchwil. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r cynllun ac mae’r holl ysgolheigion yn ei werthfawrogi’n fawr.