Val Hill

"Cymryd rheolaeth a byw bywyd i'r eithaf" – astudiaeth TIPTOE yn cefnogi pobl sy'n byw gydag osteoarthritis

17 Ionawr

Mae astudiaeth a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymchwilio i raglen gymorth wedi'i phersonoli sy'n ceisio gwella bywydau pobl sy'n byw gyda phoen pen-glin a chlun, gan eu helpu i 'gymryd rheolaeth a byw eu bywyd i'r eithaf'.

Mae'r prosiect ymchwil, TIPTOE, yn edrych ar sut y gallai rhaglen gymorth wedi'i phersonoli helpu pobl dros 65 oed sy'n byw gydag osteoarthritis ac o leiaf un cyflwr iechyd hirdymor arall.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu rhoi ar hap mewn i ddau grŵp: bydd un yn derbyn gofal GIG fel arfer, a bydd y grŵp arall yn cymryd rhan mewn hyd at chwe sesiwn un i un gydag ymarferydd gofal iechyd hyfforddedig dros chwe mis, yn ogystal ag unrhyw ofal arferol y maent eisoes yn ei gael.

Mae Val Hill, 79 oed o Gaerdydd, wedi byw gyda phoen pen-glin ac osteoarthritis ers bron i 50 mlynedd.  Mae ei phrofiad byw wedi arwain at ddod yn eiriolwr cryf dros ymchwil yn y maes hwn. 

Dywedodd hi:  "Mae astudiaeth TIPTOE yn helpu pobl i ddeall eu cyrff ac nid bod yn garcharorion o'u poen, ond i barhau i gymryd rhan mewn bywyd, i wneud pethau gyda'u plant a'u hwyrion."

Mae Val yn gweithio gyda'r tîm ymchwil i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn glir ac yn hygyrch.  Dywedodd hi:  "Rwy'n ymwneud ag edrych trwy ddogfennau cyn iddynt fynd yn gyhoeddus i sicrhau nad ydyn nhw'n cynnwys gormod o jargon, ac mae'r wybodaeth yn ddealladwy i bobl gyffredin."

Dechreuodd taith Val bron i 50 mlynedd yn ôl gydag anaf i’w phen-glin wrth iddi blygu drosodd i nôl siopa o gefn fan. Syrthiodd i mewn i'r fan, gan rwygo'i phen-glin yn wael. Dywedodd hi:  "Fe wnes i anafu fy mhen-glin yn agos at 50 mlynedd yn ôl. Ond dros y blynyddoedd, mae osteoarthritis wedi datblygu hefyd.

"Am yr 20 mlynedd diwethaf, rwyf wedi ymweld â'r meddyg teulu yn rheolaidd a chlinigau arbenigol i gael lluniau pelydr-X, a ddangosodd y rheiny bod fy mhen-glin yn dymchwel, gyda rhan isaf fy nghoes yn wynebu tuag allan yn y pen draw, gan achosi poen ac anhawster cynyddol wrth gerdded." 

Erbyn 2020, roedd y sefyllfa wedi gwaethygu i'r pwynt lle prin y gallai Val symud.  Dywedodd Val:  "Yn ystod pandemig COVID-19, tua mis Awst 2020, fe wnaeth fy mhen-glin ddymchwel yn llwyr.

"Roedd hi'n amhosib i mi fynd i fyny ac i lawr grisiau.  Prin y gallwn fynd ar draws y ffordd ac roeddwn i'n defnyddio ffon drwy'r amser.  Roedd yn brifo cymaint, ac mor boenus."

Ychwanegodd y pandemig haen arall o gymhlethdod.  Wrth i'w dosbarthiadau ymarfer corff rheolaidd gael eu seibio, roedd Val hefyd yn wynebu rhwystrau wrth gyrchu'r cymorth meddygol yr oedd ei angen arni.

Mewn anobaith ceisiodd Val lawdriniaeth amnewid pen-glin breifat ym mis Rhagfyr 2020.  Dywedodd Val:  "Roeddwn i'n gwybod na allwn i fod mor anabl â hynny ac mewn cymaint o boen." Cafodd y driniaeth, a ddaeth â rhywfaint o ryddhad ar ôl blynyddoedd o ddioddef.

Er gwaethaf ei buddugoliaeth bersonol, mae Val yn gwybod nad yw llawer o bobl eraill mewn sefyllfa i gael mynediad at ofal iechyd preifat, neu hyd yn oed weld arbenigwr mewn pryd, a arweiniodd ati i gymryd rhan yn yr Astudiaeth TIPTOE.

Ychwanegodd:  "Po fwyaf y gwyddom, y lleiaf y byddwn ar drugaredd ein cyrff. Gallwn ddechrau cymryd rheolaeth dros ein hunain."

Mae Val yn gobeithio sicrhau bod gan eraill yr offer, y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw eu bywydau i'r eithaf, er gwaethaf heriau'r cyflwr cronig hwn.  Ychwanegodd:  "Mae'n ymwneud â siarad, deall a gwybod bod eraill yn mynd trwy'r un peth."

Dywedodd Ffion Davies, Nyrs Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, sy'n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fod TIPTOE yn becyn cymorth gyda'r nod o helpu pobl sy'n byw gyda phoen yn y pen-glin a/neu boen yn y glun. Ychwanegodd:  "Rydym yn gobeithio helpu pobl sy'n byw gydag osteoarthritis i fagu hyder, sgiliau a gwybodaeth i reoli'r boen yn well, sydd i lawer yn beth cyson yn eu bywydau.

"Trwy sesiynau hyfforddi a llyfr sy'n llawn strategaethau, awgrymiadau a straeon, gallai cyfranogwyr ddysgu rheoli eu poen yn well.  Mae'n ymwneud â grymuso unigolion sydd ag osteoarthritis i hunanreoli, gyda'r bwriad o wella'u lles corfforol a meddyliol.

Beth fydd yr astudiaeth yn ei gynnwys?

Gwahoddir cleifion 65 oed neu hŷn, sy'n profi poen pen-glin a/neu glun sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd, i gymryd rhan.

Mae angen i gyfranogwyr fod yn byw yn y gymuned yn annibynnol, gyda chymorth gofalwyr neu mewn llety byw â chymorth a bod â chyflwr corfforol neu feddyliol hirdymor arall.

Fel rhan o'r astudiaeth, bydd aelodau'n cael eu rhannu ar hap - gyda hanner yn derbyn gofal GIG safonol a hanner yn cymryd rhan mewn hyd at chwe sesiwn un-i-un gydag ymarferydd gofal iechyd hyfforddedig dros chwe mis.

Gall y sesiynau bara hyd at awr a chael eu cynnal yn bersonol neu ar-lein. Eu nod yw gwneud pobl yn fwy annibynnol ac actif.

Bydd cyfranogwyr yn cofnodi eu cynnydd dros gyfnod o 18 mis.  I gael gwybod mwy neu i gofrestru, ewch i www.TIPTOE.org.uk neu e-bostiwch TIPTOE@cardiff.ac.uk.