
Astudiaeth ymchwil arloesol i ddiagnosis cynharach o ddementia yn agor yng Nghymru
16 Hydref
Mae astudiaeth ymchwil arloesol ledled y DU sy'n cyfuno biofarcwyr gwaed gyda phrofion genetig a deallusrwydd artiffisial i gyflymu diagnosis o ddementia a lleihau amseroedd aros i gael ei lansio yng Nghymru yr wythnos hon.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fydd y safle cyntaf i agor recriwtio ar gyfer astudiaeth SANDBOX, sef yr astudiaeth gyntaf yn y DU i ddod â'r offer hyn at ei gilydd ar raddfa fwy o fewn llwybrau clinigol arferol.
Bydd yn cael ei gyflwyno ar draws byrddau iechyd yng Nghymru yn ogystal â safleoedd yn Lloegr a'r Alban, gan ei wneud yn un o'r rhaglenni ymchwil dementia mwyaf cynhwysfawr yn y DU.
Daw'r newyddion wrth i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cefnogi'r astudiaeth, gynnal ei degfed cynhadledd flynyddol sy'n dathlu degawd o effaith mewn ymchwil. Eleni yn unig mae Canolfan Niwrotherapïau Datblygedig Caerdydd yn chwarae rhan flaenllaw mewn treial therapi genynnau arloesol, AMT-130, y dangoswyd ei fod yn arafu gwaethygiad clefyd Huntington, tra bod cyffur o'r radd flaenaf wedi'i drwyddedu i'w ddefnyddio yn y DU a'r Unol Daleithiau o ganlyniad i dreial clinigol a arweinir yng Nghymru, FAKTION, sy'n helpu i ymestyn bywydau pobl sy'n byw gyda chanser y fron terfynol.
Mae SANDBOX, astudiaeth genedlaethol a noddir gan Prima Mente ac a arweinir gan Goleg Imperial Llundain, yn cofrestru 1,000 o gleifion i werthuso system brysbennu newydd, sy'n seiliedig ar fioleg sy'n dechrau ar ôl atgyfeiriad gan feddyg teulu, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, profion gwybyddol digidol, biofarcwyr gwaed penodol i Alzheimer, a phrofi ffactorau genetig sy'n berthnasol i ddementia. Mae'r offer hyn yn cefnogi eglurder diagnostig ac yn helpu clinigwyr i flaenoriaethu cleifion yn well yn seiliedig ar risg a brys.
Mae model hybrid yr astudiaeth yn cefnogi cyfranogiad yn y clinig ac o bell. Bydd pecynnau casglu gwaed newydd yn cynnal ansawdd sampl ar dymheredd ystafell - gan ddileu'r angen am logisteg cadwyn oer a hwyluso mynediad ar draws gwahanol leoliadau'r GIG.
Yn y cam hwn o'r treial, ni fydd SANDBOX yn disodli protocolau safonol y GIG, ond bydd yn rhoi mynediad cynnar i glinigwyr at offer datblygedig a allai gynorthwyo diagnosis a lleihau'r amser i ddiagnosis. Mae'r offer hyn wedi'u haenu i'r system bresennol i gefnogi brysbennu a chreu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer integreiddio yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Chineze Ivenso, Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Dementias a Niwroddirywiad ac Ymgynghorydd mewn Seiciatreg Henaint ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Mae nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn, gan wneud ymchwil i'r cyflwr cymhleth a heriol hwn hyd yn oed yn fwy hanfodol.
Rydym yn falch iawn o allu dod â'r astudiaeth arwyddocaol a chyffrous hon i Gwent a Chymru, i wthio ffiniau ein dealltwriaeth o'r cyflwr dinistriol hwn a helpu i gefnogi'r miloedd o deuluoedd sy'n delio â diagnosis dementia bob blwyddyn.
"Bydd dod â'r ystod gynhwysfawr hon o ffactorau at ei gilydd yn helpu i nodi cleifion yn llawer cynt, gan eu galluogi i gael mynediad at driniaeth a chymorth yn gynharach."
Ychwanegodd Prif Ymchwilydd SANDBOX, Dr Ivan Koychev, Pennaeth Trosi Clinigol yn Prima Mente ac Athro Cysylltiol Niwroseiciatrieg yng Ngholeg Imperial Llundain: "Rydym ar drobwynt mewn diagnosis dementia. Trwy gyfuno biofarcwyr gwaed, profion genetig a deallusrwydd artiffisial, SANDBOX yw'r astudiaeth gyntaf yn y DU i integreiddio'r offer hyn o fewn llwybrau GIG go iawn. Ein nod yw rhoi mewnwelediadau gwell, cyflymach i glinigwyr fel bod cleifion yn cael y gofal iawn ar yr adeg iawn. Mae diagnosis cynharach a mwy cywir nid yn unig yn cefnogi cleifion a theuluoedd ond hefyd yn sicrhau mynediad amserol at driniaethau newydd wrth iddynt ddod ar gael."
"Hyd nes bod gennych chi ddiagnosis, allwch chi ddim cael meddyginiaeth"
Cymerodd dros ddwy flynedd o brofion cyn i Kathryn White, 74 oed, postfeistres wedi ymddeol o Bontllanfraith, gael diagnosis o glefyd Alzheimer ym mis Gorffennaf 2024.
Dywedodd gŵr Kathryn, Michael: "Fe wnaethon ni ddechrau poeni pan aeth Kathryn ar goll wrth yrru i gwrdd â mi a ffrind yng Nghaerdydd, taith mae hi wedi'i gwneud sawl gwaith. Digwyddodd yr un peth ychydig mwy o weithiau, felly aethom at y meddyg. Fe wnaeth Kathryn rai profion gwybyddol, a ddaeth yn ôl yn ymylol, ond roedd gennym deimlad bod rhywbeth yn digwydd. Dros y ddwy flynedd a hanner nesaf cafodd Kathryn gyfres gyfan o brofion, mewn ysbytai ledled de Cymru, ond daeth pob un ohonynt yn ôl yn normal. O'r diwedd fe wnaethon ni gwrdd â Dr Ivenso a gyfeiriodd Kathryn am bigiad yn y meingefn ac fe ddaeth hwnnw'n ôl yn bositif."
Er bod pigiad yn y meingefn yn ffordd effeithiol o gynorthwyo diagnosis cywir o glefyd Alzheimer, trwy ddadansoddi hylif yr asgwrn cefn, mae profion biofarcwyr gwaed yn weithdrefn llai ymledol, a allai fod wedi galluogi Kathryn i gael diagnosis yn gynt.
Ychwanegodd Michael: "Mae'r ddau ohonom wedi ymddeol ac roedden ni'n gallu cyrraedd yr apwyntiadau, ond roedd yn dal i’n llethu ni. Y peth gwaethaf oedd hyd nes bod gennych chi ddiagnosis, allwch chi ddim cael meddyginiaeth. Yn hynny o beth, roedd cael y diagnosis yn rhyddhad. Nawr mae Kathryn ar feddyginiaeth i arafu ei waethygiad. Mae hi'n gallu cael trafferth gyda'r cof tymor byr, ond mae'n mwynhau gweld ffrindiau a threulio amser gyda'n plant, wyrion a gor-wyrion."
Mae Kathryn a Michael wedi cymryd rhan mewn nifer o astudiaethau ers ei diagnosis. Ychwanegodd Michael:
Os ydych chi'n cael diagnosis cyflym, rydych chi'n dod o hyd i'r broblem yn gynt. Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil, y mwyaf tebygol ydych chi o ddod o hyd i'r atebion. Bydd mwy o driniaethau yn ymddangos ac yn gwella o ganlyniad i ymchwil, felly os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud, byddwn yn ei wneud. Gallai helpu pobl eraill."
Dywedodd Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Prima Mente, Dr Ravi Solanki: "Mae gan AI y potensial i drawsnewid canlyniadau gofal iechyd i filiynau o bobl yn y DU er gwell. Rydym yn falch o weithio ar draws nifer o Fyrddau Iechyd yng Nghymru i sicrhau bod modd cyflwyno ein modelau'n ddiogel ar raddfa fwy fel y gallwn gael yr effaith glinigol fwyaf ar gymaint â phosibl. Gyda'r astudiaeth hon, mae Cymru ar flaen y gad o ran arloesi clinigol yn fyd-eang."
Ychwanegodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Mae ansawdd ac ehangder y gweithgarwch ymchwil a datblygu dros y deng mlynedd diwethaf wedi bod yn ysbrydoledig, a thrwy astudiaethau fel SANDBOX, FAKTION ac AMT-130, rydym yn dangos bod gan Gymru ran fawr wrth helpu i ddarganfod diagnosteg, therapïau a thriniaethau y dyfodol, yn ogystal â'r rôl sydd gan ymchwil a thystiolaeth wrth helpu i lunio polisi yn ddomestig, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
"Dros y deng mlynedd nesaf byddwn yn ategu’r waddol hon i gryfhau ymchwil iechyd a gofal ymhellach yng Nghymru fel rhan bwysig ac angenrheidiol o'n hymdrechion i sicrhau Cymru iachach a thecach."