
Menyw o’r Barri yw'r claf cyntaf yng Nghymru i dderbyn cyffuriau sy'n ymestyn hyd bywyd ar gyfer canser terfynol y fron
2 Mehefin
Menyw o'r Barri a gafodd ddiagnosis o ganser terfynol y fron yw’r claf cyntaf yng Nghymru i dderbyn cyffuriau sy'n ymestyn hyd bywyd yn dilyn treial clinigol arloesol a gefnogwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cafodd Gwen Buchan ddiagnosis o ganser cychwynnol y fron am y tro cyntaf 16 mlynedd yn ôl a chafodd lawdriniaeth ac yna cemotherapi, radiotherapi a thriniaeth hormonau. Ond fis Ebrill diwethaf cafodd y newyddion ei bod wedi datblygu canser eilaidd bum wythnos cyn priodas ei mab, a phenderfynodd hi a'i gŵr beidio â datgelu hynny yn y cyfamser.
Gan nad oedd ei thriniaeth gychwynnol yn gweithio mwyach ar ôl pedwar mis yn unig, roedd Gwen yn ei chael yn anodd prosesu'r newyddion – nes iddi glywed bod triniaeth newydd, capivasertib, bellach ar gael ar y GIG, tra roedd hi'n ymweld â theulu yn yr Alban.
Tabled yw Capivasertib sydd, pan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â thriniaeth hormonau safonol, yn arafu gwaethygiad canser y fron na ellir ei wella, gan ymestyn hyd bywyd cleifion cymwys o fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Cafodd ei brofi mewn treial clinigol, o’r enw FAKTION, dan arweiniad Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd mewn partneriaeth ag AstraZeneca a Phrifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Fis diwethaf, cymeradwywyd Capivasertib i'w ddefnyddio ar gleifion y GIG yn Lloegr ac mae bellach wedi'i drwyddedu i'w ddefnyddio yng Nghymru.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Gwen: "Doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano, nes i fy oncolegydd sôn bod triniaethau newydd ar gael, ond nid tan bedair wythnos yn ôl y darganfyddais fod siawns dda y gallwn i ei gael - pe bai gen i fwtaniad penodol, sydd gen i - ac ni allwn gredu'r peth.
"Rwy'n gobeithio y bydd yn ymestyn fy mywyd, mae fy mywyd yn gyfyngedig. Roedd yn siomedig pan fethodd fy nhriniaeth gychwynnol mor gynnar. Rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl a oedd, bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dal ar y driniaeth gyntaf honno, felly roedd gwybod ar ôl pedwar mis nad oedd yn gweithio mwyach yn ofnadwy.
"Rwy'n credu bod yn rhaid i chi gadw gobaith yn eich calon
Dydw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, rydw i ymhellach ar y siwrne hon a'r ffordd rydw i'n ymdopi â hyn yw trwy feddwl bod heddiw yn ddiwrnod da, oherwydd rydw i yma.
"Os gofynnwch chi i mi sut rwy'n teimlo, rwy'n teimlo'n eithaf da. Efallai bod y cyfan yn swnio'n ofnadwy, ond y gwir amdani yw nad ydw i mewn llawer o boen.
"Dyna pam rwy’n canolbwyntio ar bob un dydd oherwydd dydw i ddim yn mynd i boeni am sut rydw i'n mynd i deimlo mewn chwe mis, rydw i'n mynd i feddwl sut ydw i'n teimlo heddiw? Rwy'n teimlo'n eithaf da. Ydw i eisiau mynd i wneud rhywbeth? Ydw, rwyf eisiau."
Ychwanegodd yr Athro Rob Jones, Prif Ymchwilydd treial FAKTION: "Mae'n hynod foddhaol gweld sut mae treial clinigol a ddechreuodd yma yng Nghymru wedi arwain at drwyddedu capivasertib ar gyfer cleifion y GIG yng Nghymru.
"Nid yw cleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser y fron sydd wedi lledaenu yn aml yn gallu cael eu gwella, ac rydym yn ceisio ymestyn hyd bywyd, ond mae ansawdd bywyd mor bwysig â hyd bywyd i gleifion.
"Mae hon yn stori o lwyddiant mawr i Gymru.
"Ni ellir gorbwysleisio pa mor brin yw hi bod cyffuriau cyntaf yn eu dosbarth, arwydd clinigol cyntaf newydd yn cael eu cymeradwyo gan NICE yn y DU ac yn fyd-eang, dim ond tua unwaith bob ychydig flynyddoedd y mae'n digwydd gyda chanser y fron, ac mae hynny'n cynnwys treialon a wneir ledled y byd, felly mae cyflawni hynny drwy ymchwil a arweiniwyd yng Nghymru yn eithaf arwyddocaol."
Ychwanegodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae treial FAKTION yn enghraifft wych o sut mae ymchwil a arweinir yng Nghymru, mewn cydweithrediad ag ysbytai ledled y DU, wedi gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion.
"Gall diagnosis o ganser y fron fod yn ddinistriol, a bydd un o bob saith menyw yn cael diagnosis o'r clefyd yn ystod eu hoes. Mae'r diagnosis hwn hyd yn oed yn fwy poenus os dywedir wrthych fod eich canser yn anwelladwy. Diolch i'r treial hwn a thrwyddedu Capivasertib, pan gaiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â therapi hormonaidd safonol, mae gan gleifion fel Gwen bellach y potensial i gael estyniad sylweddol iawn i’w hoes a gwell ansawdd bywyd.
"Rydym yn falch o'n hymchwilwyr a'n partneriaid yng Nghymru, gan gynnwys y Ganolfan Ymchwil Treialon, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru, am chwarae rôl mor ganolog ym maes ymchwil canser."
I gadw i fyny dessau gyda astudiaethau fel FAKTION sy'n digwydd ledled Cymru, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.