Dr Nathan Bray
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd (2016 - 2022)
Teitl y prosiect: Mobility and Quality of Life: Improving methods of economic evaluation of assistive technology for adults and children with impaired mobility
Bywgraffiad
Mae Dr Nathan Bray yn Uwch Ddarlithydd Iechyd Ataliol ac yn Arweinydd Dysgu Cymhwysol i’r Academi Iechyd Ataliol (ALPHAcademy). Mae ganddo MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd a doethuriaeth mewn Economeg Iechyd. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar economeg iechyd ac anabledd, ac yn benodol y defnydd o ddulliau gwerthuso economaidd yn y ddarpariaeth o dechnoleg gynorthwyol a namau symudedd. Fel prif ymgeisydd a chyd-ymgeisydd, mae Dr Bray wedi cyfrannu at sicrhau grantiau gwerth cyfanswm o fwy na £4 miliwn ers 2015, ac yn 2016 derbyniodd gymrodoriaeth ôl-ddoethurol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. O 2015 tan 2018, cadeiriodd Dr Bray bwyllgor ymchwil effeithiolrwydd cymharol Cymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr Cadair Olwyn Proffesiynol, ac roedd yn Olygydd Cyswllt y British Journal of Dermatology o 2017 tan 2020. Ar hyn o bryd, mae Nathan yn aelod o Bwyllgor Ysgoloriaethau Ymchwil Doethuriaeth mewn Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Darllen mwy am Nathan a’u gwaith: