Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn arddangos y gorau o Ymchwil a Datblygu
21 Medi
Mae arddangosfa Ymchwil a Datblygu Bae Abertawe wedi dychwelyd am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.
Yn ystod y digwyddiad undydd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Addysg Ysbyty Treforys ddydd Mawrth (3 Medi), bu deg siaradwr yn trafod wyth prosiect gwahanol, yn amrywio o ddatblygu prawf gwaed syml i ganfod canser y colon, i rymuso staff anghlinigol i ddod yn brif ymchwilwyr ac arwain ymchwil.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro, Raj Krishnan, yr anerchiad cyntaf a gwnaeth yr Athro Dean Harris, llawfeddyg ymgynghorol ym maes y colon a’r rhefr a Dirprwy Gyfarwyddwr rhaglen Ymchwil a Datblygu Bae Abertawe, groesawu tua 60 o westeion.
Hefyd yn bresennol roedd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cefnogi Ymchwil a Datblygu ym Mae Abertawe.
Dywedodd yr Athro Harris ei fod yn 'falch iawn' o gadeirio ail-lansiad y digwyddiad, gan ychwanegu: "Mae'n bwysig iawn tynnu sylw at y cyflawniadau sydd gennym yn y lleoliad Ymchwil a Datblygu fel bwrdd iechyd i'r staff ehangach annog mwy a mwy o bobl i feddwl am gymryd rhan yn yr ymchwil a chynnal treialon eu hunain.
"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn llwyddiant ac y gallwn ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol, gan arddangos hyd yn oed mwy o adrannau."
Ychwanegodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Roedd yn wych gallu mynychu diwrnod Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a gweld ehangder a dyfnder y prosiectau a'r staff talentog iawn sy'n eu harwain. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phob un o fyrddau iechyd Cymru i wreiddio ac integreiddio ymchwil i bob agwedd ar wasanaethau iechyd a gofal yn GIG Cymru, a hoffwn ddiolch yn bersonol i Dean a threfnwyr y digwyddiad am eu hymdrechion i arddangos ystod mor wych o weithgarwch."