Stephanie Jones

“Wedi tyfu i fyny mewn cymuned wledig, rydw'i yn deall yr angen am ymchwil i unigrwydd”

Mae gwyddonwyr, ymchwilwyr, meddygon, nyrsys, clinigwyr a gweithwyr gofal dawnus ledled Cymru’n rhoi o’u hamser a’u hymdrech i ddatblygu meddyginiaethau sy’n torri tir newydd ac i ofalu amdanon ni.

Mae Stephanie Jones yn gwybod yn rhy dda beth oedd teimlo'n unig wrth dyfu i fyny mewn cymuned wledig, a'r teimlad hwnnw o unigrwydd yw'r grym y tu ôl  i'w hymchwil i anghydraddoldeb cymdeithasol.

Mae anghydraddoldeb cymdeithasol yn cyfeirio at y gwahaniaethau yn y modd y caiff adnoddau eu dosbarthu o fewn cymuned a'r modd y gall hyn amharu ar statws cymdeithasol neu ddosbarth cymdeithasol yr unigolyn. 

Mae hi yn un o dri myfyriwr PhD gofal cymdeithasol a ariennir gan Gynllun Ysgoloriaeth Ymchwil Gofal Cymdeithasol PhD Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2020/21.

Deall bywyd mewn ardal wledig

Cafodd Stephanie ei denu'n ôl i Gymru wledig wedi iddi gwblhau gradd mewn nyrsio oedolion ym Mhrifysgol Bangor a chymhwyster ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caer.

“Roeddwn wedi fy magu mewn ardal wledig ac wedi gweld mor anodd yw cael mynediad at gefnogaeth. Er enghraifft, roedd yn rhaid i mi ddibynnu ar bobl eraill i roi lifft i mi i glybiau a grwpiau cymdeithasol, ac roedd taith i'r ysbyty agosaf yn cymryd hanner awr.  

“Mewn dinasoedd, mae llawer mwy o gefnogaeth ar gyfer pobl, mwy o waith gan y trydydd sector a mwy o gysylltiadau trafnidiaeth,” meddai hi.

“Rwyf yn deall yr unigrwydd ar ol tyfu i fyny ynddo. Mae gennym gymaint i'w gynnig yng Nghymru ac mae'n lle bendigedig i fyw ynddo ond mae rhai carfannau o bobl sydd yn mynd am ddyddiau heb siarad â theulu na ffrindiau a dim cefnogaeth ar eu cyfer. ”

“Roedd yn braf tyfu i fyny mewn cymdeithas agos, ond roedd rhai o'n cymdogion hŷn yn byw eu hunain ac yn dioddef oherwydd unigrwydd. Fe gofiaf fel roedd fy mam bob amser yn fy annog i fynd am sgwrs gyda'n cymdogion a holi sut yr oeddynt, gan mai fi efallai fyddai'r unig un i siarad â hwy y diwrnod hwnnw. ”

Adnabod pwy  sydd mewn perygl o ddioddef unigrwydd

Cychwynnodd Stephanie, sydd yn 32 mlwydd oed ac yn byw ym Mhowys, ei siwrne PhD tair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda phrosiect dan y teitl: ‘Sut mae byw mewn ardal wledig yn cyfrannu tuag at deimlad o unigrwydd mewn rhai cymunedau gwledig, a'r modd y  mae cymunedau yn ymateb i anghydraddoldeb cymdeithasol.’

“Rydym yn archwilio cymunedau mewn ardaloedd gwledig o safbwynt canfod prawf o unigrwydd,” eglurodd.

“Prif fwriad yr astudiaeth yw archwilio ymyrraethau i gefnogi 'r grwpiau hynny y canfyddir eu bod mewn perygl mawr o ddioddef unigrwydd.

“Mae'n bosibl bod rhwystrau penodol yn atal pobl rhag cael mynediad at wasanaethau a allai eu helpu. Er enghraifft, symudedd a'r gallu i adael y tŷ, iaith a chyfrifoldebau gofalu.”

Cadw meddwl agored

Wedi cwblhau hyfforddiant fel nyrs oedolion, arbenigodd Stephanie mewn helpu pobl gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau. 

“Mae gennyf brofiad o ymchwilio i ddigartrefedd ac anghyfartaledd o ran cael mynediad at ofal sylfaenol, gwasanaethau gofal llym a rhyddhau o ysbyty, a chredaf bod fy nghefndir yn addas  i'r prosiect gan fy mod, wrth ddilyn fy ngwaith ymchwil, wedi arfer siarad gyda - a deall  - cymunedau sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu.

“Rwyf eisiau cydweithio gyda'r elusennau, cymharu data a siarad â rhanddeiliaid er mwyn adnabod y bylchau yn y gefnogaeth i'r bobl hyn. Rwyf hefyd eisiau cadw meddwl agored a gadael i'r data fy arwain.” 

Yn y dyfodol

Bwriad Stephanie yn y dyfodol yw darparu tystiolaeth a all hyrwyddo datblygiad polisi, gan gynnwys hyrwyddo mentrau cyfredol a mentrau newydd i fynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol.

“Fy ngobaith i ar gyfer y dyfodol yw gwella gwasanaethau trwy ymchwil er mwyn cefnogi mwy o bobl, ac fe fydd y PhD yma yn dod â'r freuddwyd yn wir i mi. 

“Rwyf eisiau bod yn arbenigwraig mewn bywyd gwledig ac amrywiaeth – pe buaswn yn cael ymchwilio am byth, dyna fyddwn yn ei wneud! Rwyf mor ddiolchgar am yr ysgoloriaeth ymchwil ac am y cyfle.  Rydwi mor lwcus ac yn benderfynol o wneud cyfiawnder â'r cyfle.”

 


Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil PhD Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu unigolion talentog i ymgymryd ag ymchwil ac astudiaethau fydd yn arwain at PhD yng Nghymru. 

Mae'r cynllun yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol trwy ariannu prosiectau ymchwil ansawdd uchel, darparu tystiolaeth gadarn sydd yn mynd i'r afael ag anghenion gofal cymdeithasol defnyddwyr, gofalwyr a'r boblogaeth ehangach, ac yn trefnu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol efeithlon yng Nghymru.

Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau

I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol