Jenna Tugwell-Allsup

Does dim angen dychmygu gyda delweddu: dyma’r ymchwilydd o ogledd Cymru sy'n arwain y ffordd mewn astudiaethau radiograffeg

"Pan fyddaf yn dweud wrth bobl am radiograffeg ddiagnostig, byddan nhw’n aml yn ateb gan ddweud 'Felly rydych chi'n tynnu lluniau?' Wrth gwrs mae llawer mwy iddi na hynny!"

Mae Dr Jenna Tugwell-Allsup, 35, yn radiograffydd ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn ddarlithydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor. Pan nad yw'n cyflawni ymchwil ac yn cefnogi gwelliannau ym maes gofal, mae Jenna yn byw yn Llanllechid gyda'i gŵr a'i dau blentyn. Mae hi hefyd yn chwarae pêl-droed a phêl-rwyd i dimau Adran 1 Clwb Pêl-droed Merched Bethel a Tîm o Walis.

"Pan fyddwn yn esbonio i gleifion beth rydym yn ei wneud," meddai Jenna, "Weithiau, byddwn yn dweud ein bod yn defnyddio camerâu arbenigol i weld beth sy'n digwydd y tu mewn i'r corff drwy ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio. Yr hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd yw cynhyrchu delweddau o ansawdd uchel a fydd yn helpu meddygon gyda'u diagnosis. Mae radiograffeg yn hollbwysig oherwydd heb ddelweddu fel pelydr-X, MRI, uwchsain, neu sgan CT, mae'n anodd i feddygon roi diagnosis o glefydau ac anafiadau.

"Cefais fy mlas cyntaf am wneud ymchwil yn ystod fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Bangor, lle'r oedd angen i mi gwblhau prosiect ymchwil ar gyfer fy nhraethawd hir. Fe wnaeth fy nghyflwyno i'r syniad bod llawer o bethau ym maes gofal iechyd nad oes gennym ateb ar eu cyfer o hyd. Mae'r syniad y gallwn i ddarganfod rhywbeth newydd, a allai helpu pobl hefyd, yn fy nghyffroi'n fawr."

Ar ôl i Jenna raddio, bu'n gweithio am bedair blynedd yn radiograffydd, gan arbenigo mewn sganiau MRI yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Yna yn 2012, daeth Jenna yn radiograffydd ymchwil i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda chymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Ers degawd mae Jenna wedi canolbwyntio ar gefnogi a chyflawni ymchwil yng ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys ei hymchwil radiograffeg ei hun a chefnogi astudiaethau eraill sy'n dibynnu ar wasanaethau radiograffeg, er enghraifft treialon clinigol ar gyfer canser.

Gwneud gwahaniaeth mawr

"Astudiaeth y gwnes i ei harwain a roddodd foddhad i mi oedd un yn seiliedig ar yr hyn yr oeddwn i wedi'i weld yn ystod fy mlynyddoedd yn gweithio ym maes MRI, lle gwnes i gyfarfod â chleifion a oedd yn bryderus iawn cyn ac yn ystod eu sgan. Roedd rhai cleifion yn glawstroffobig ac roedd y syniad o orwedd i lawr y tu mewn i le cyfyng peiriant MRI am gyfnod hir yn eu dychryn. Byddai rhai cleifion yn gwrthod cael sgan yn llwyr, sy'n cael effaith fawr ar eu diagnosis a'u triniaeth. Mae tuedd i gleifion pryderus symud yn fwy yn ystod sgan hefyd, a all arwain at ddelweddau aneglur a llai defnyddiol ar gyfer gwneud diagnosis. Roeddwn i'n meddwl y gallai ymchwil archwilio ffyrdd o wella eu profiad a helpu staff i ddeall beth oedd cleifion yn pryderu amdano fwyaf.

"Cymraeg yw fy iaith gyntaf, felly creais fideo dwyieithog i gleifion ei wylio cyn cyrraedd yr adran, yn esbonio beth sy’n digwydd yn ystod sgan MRI, pam rydym yn gofyn cymaint o gwestiynau diogelwch, pa sŵn i'w ddisgwyl, a phwysigrwydd cadw’n llonydd yn ystod y sgan. Yna fe wnaethom gymharu pryder y grŵp hwn o gleifion ag eraill a dderbyniodd y dull arferol, sef taflen wybodaeth gyda'r llythyr apwyntiad. Cafodd cleifion eu cyfweld ac fe wnaethon nhw lenwi holiaduron am eu profiad.

"Datgelodd yr ymchwil fod rhoi dolen fideo i gleifion i'w gwylio cyn sgan MRI yn lleihau eu pryder ac rwy'n dal i gael ceisiadau o bob rhan o'r DU am y ddolen hon. Mae'n dangos, i lawer o gleifion, mai ofni'r hyn nad ydyn nhw’n ei wybod sy'n gwneud y sefyllfa'n waeth. Gall gwrando ar brofiadau cleifion a chynyddu ymwybyddiaeth staff o'u hanghenion wneud gwahaniaeth mawr i sawl agwedd ar ofal.”

Ymchwil yn gwthio rhwystrau

"Yn ystod y pandemig, gweithiais gyda radiograffydd ymchwil arall, Bethan Owen, i gefnogi Cronfa Ddata Genedlaethol Delweddu'r Frest COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys anfon pelydrau X dienw o gleifion positif â COVID-19 i Labordy AI GIG Lloegr i gyfrannu at well dealltwriaeth o sut mae'r feirws yn effeithio ar yr ysgyfaint. Pan oedd yn ddiogel, fe wnaethom barhau wedyn i recriwtio cleifion i dreial a oedd yn archwilio'r defnydd o MRI wrth reoli canser yr ofari. Bydd y prosiectau ymchwil nesaf rwy'n gweithio arnyn nhw yn cynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) a sut y gall y dechnoleg newydd hon fod o fudd i gleifion.  Mae'r treial MIDI, sy'n recriwtio cleifion ar hyn o bryd, yn profi a all offeryn AI nodi annormaleddau ar sganiau pen MRI.

"Mae ymchwil yn gwthio rhwystrau'r hyn rydym yn meddwl ein bod yn ei wybod. Nid yw'r ffaith ein bod yn gwneud rhywbeth yn dda yn golygu na allwn ei wneud yn well byth. Rwy'n gobeithio bod fy ymchwil, ni waeth pa mor fach yw'r prosiect, wedi arwain a dylanwadu ar eraill ym maes radiograffeg i feddwl yn feirniadol am sut yr ydym yn gweithio a sut y gallwn wella gofal yn barhaus. Heb ymchwil, byddai popeth yr ydym yn ei wybod am ofalu am gleifion a’u trin yn dybiaeth. Mae angen tystiolaeth arnom i brofi beth sy'n well i gleifion a dyna'r hyn yr wyf i’n angerddol amdano."

Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau

I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol