Menyw yn cael prawf gwaed

Ble fydden ni heb ymchwil?

23 Chwefror

Mae ein hymgyrch newydd yn dwyn slyw at bwysigrwydd holl ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sydd yn digwydd yng Nghymru, gan annog mwy o bobl i ddarganfod mwy, helpu a siapio ymchwil

Rydym wedi lansio ymgyrch newydd heddiw, gyda’r nod o annog mwy o bobl i helpu gyda ymchwil sy’n newid bywydau trwy arddangos astudiaethau arloesol sy’n mynd rhagddynt ledled Cymru.

Ymchwil Covid-19

Dros y 22 mis diwethaf, mae mwy na 47,000 o bobl Cymru wedi cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil iechyd cyhoeddus brys i COVID-19. Mae gwirfoddolwyr wedi helpu i ddarparu sail ar gyfer rhaglen y brechlyn atgyfnerthu; wedi cefnogi gwaith datblygu pedwar brechlyn newydd; ac wedi darparu sail ar gyfer y rhaglen rhoi’r brechlyn ar waith ar gyfer plant 12-15 oed, ymhlith pethau eraill.

Ffyrdd o helpu gyda ymchwil

Mae’r ymgyrch ‘ble fydden ni heb ymchwil’, yn dwyn sylw at yr ymchwil arloesol sydd eisoes wedi newid bywydau cannoedd o bobl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall pobl o bob cymuned helpu yn y dyfodol.

Mae yna lawer o ffyrdd y gall pobl helpu ag ymchwil, yn amrywio o gefnogi gwaith creu gwybodaeth astudiaeth a datblygu cwestiynau ymchwil allweddol, i gynghori ymchwilwyr ar y ffyrdd gorau i rannu darganfyddiadau neu gymryd rhan mewn treialon clinigol. Mae bod â phrofiad personol o driniaethau a gofal yn gwneud aelodau o’r cyhoedd yn hynod werthfawr i ymchwilwyr, gan helpu i wneud yn siŵr bod eu hymchwil yn canolbwyntio ar y materion sy’n bwysig.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Roedd pobl a oedd erioed wedi meddwl rhyw lawer am ymchwil o’r blaen yn ymhél â datblygu brechlynnau, treialon clinigol a thriniaethau a chafodd canlyniadau’r ymchwil sylw helaeth yn y newyddion, gan roi gobaith go iawn yn y frwydr yn erbyn y feirws.

“Ond mae ymchwilwyr yng Nghymru wedi bod wrth galon ymchwil hanfodol am flynyddoedd i gyflyrau fel diabetes, canser, dementia a datblygu technolegau newydd fel clustffonau realiti rhithwir ar gyfer anhwylder straen wedi trawma a breichiau robot i gefnogi llawdriniaethau epilepsi.

“Mae’r ymgyrch ‘ble fydden ni heb ymchwil’ yn ein hatgoffa sut beth fyddai ein byd pe na fyddai’r ymchwilwyr, y gwyddonwyr, yr academyddion a’r staff cyflenwi ymchwil hynny yno. Fyddai gennon ni ddim meddyginiaethau fel parasetamol a phenisilin, neu unrhyw rai o’r profion diagnostig a’r triniaethau sy’n achub ac yn gwella bywydau yng Nghymru ac ar hyd a lled y byd.

“Trwy gynnwys cynifer o bobl â phosibl o bob cefndir, rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n datblygu ac yn ariannu’r ymchwil fwyaf perthnasol.” 

Meddai Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae pobl yn dibynnu ar ymchwil sy’n digwydd yn y cefndir i sicrhau bod eu tad, eu chwaer neu eu nith yn cael y diagnosis a’r driniaeth orau, ond mae’n dibynnu ar unigolion sy’n hapus i helpu ymchwilwyr. Gellir gwneud hyn drwy dreialon clinigol, gwneud sylwadau ar y ffordd o sefydlu astudiaeth neu fod yn rhan o grŵp ffocws – heb y gwirfoddolwyr hynny mae yna lawer o bobl na fydden nhw yma heddiw.”

Cymhellion i helpu gyda ymgyrch

Mae yna lawer o wahanol bethau sy’n cymell pobl i helpu ag ymchwil a nod yr ymgyrch yw sicrhau bod modd cynnwys cynifer o bobl â phosibl. Un person sydd wedi cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil o’r enw SIREN, sydd yn edrych i weld a yw’r rheini sydd wedi dal COVID-19 wedi’u hamddiffyn rhag ei ddal eto, yw Sarah Goodey sy’n byw yng Nghasnewydd.

Mae Sarah, wedi bod yn rhan o’r astudiaeth ers 2021 ac mae hi newydd gofrestru ar gyfer blwyddyn arall. Meddai:

“Mae’n rhaid i mi roi gwaed ar gyfer yr astudiaeth a dydw i ddim yn hoffi nodwyddau, ond roeddwn i’n hapus i ymuno â’r treial gan fy mod i’n meddwl ei fod yn rhywbeth y gallwn i ei feistroli trwy edrych y ffordd arall a meddwl bod hyn yn rhywbeth dwi’n ei wneud er lles pawb. Mae’n fwy na fi.

“Dwi mor falch fy mod i wedi gwirfoddoli i wneud y treial. Dwi’n cofio pan ddywedais i wrth fy rhieni beth roeddwn i’n ei wneud, ac roedden nhw’n falch iawn ohona’ i. Mae’r ddau ohonyn nhw nawr wedi cofrestru ar gyfer treialon COVID-19 hefyd. Dwi’n meddwl bod ymchwil yn hanfodol i’n hiechyd a’n llesiant.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch a chyfleoedd i helpu ag ymchwil, ewch i neu dilynwch y sgwrs yn y cyfryngau cymdeithasol @YmchwilCymru