Blwyddyn o effaith - Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
21 Mawrth
Bydd y ganolfan ymchwil gyntaf o’i math yng Nghymru, sy’n darparu tystiolaeth i helpu gweinidogion i wneud penderfyniadau hollbwysig yn ystod y pandemig, yn dathlu ei phen-blwydd yn un oed yr wythnos hon.
Dadansoddi tystiolaeth hanfodol
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru am £3m fis Mawrth 2021 i ddadansoddi ymchwil wyddonol hanfodol i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau a oedd yn dod i’r amlwg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn sgil COVID-19.
Mae’r Ganolfan yn darparu adolygiadau cyflym o ddarganfyddiadau ymchwil ryngwladol allweddol yn ogystal ag astudiaethau ymchwil â ffocws, er mwyn tywys penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan weinidogion ac arweinwyr yn y GIG a’r sector gofal cymdeithasol.
Bydd ei gwaith yn cael lle amlwg mewn digwyddiad y bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei fynychu.
Cael effaith
Yn y 12 mis diwethaf, mae’r Ganolfan wedi cwblhau 25 o adolygiadau yn dwyn ymchwil ynghyd i bynciau fel nifer y rheini’n manteisio ar y brechlyn mewn cymunedau difreintiedig, yr effaith ar iechyd meddwl gweithwyr allweddol ac effeithiolrwydd gorchuddion wyneb, sef adolygiad sylweddol a oedd wrth wraidd cyngor Llywodraeth Cymru i barhau â gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol.
Arweiniodd adolygiad y Ganolfan o ddiheintyddion ac awyru mewn ysgolion at dargedu adnoddau tuag at fonitorau carbon diocsid i asesu effeithiolrwydd yr awyru ac mae’r rhain nawr yn rhan allweddol o ddiogelu mewn ysgolion o ddydd i ddydd.
Yn fwyaf diweddar, darparodd y Ganolfan dystiolaeth ynglŷn â diogelwch y brechlyn yn ystod beichiogrwydd i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ymgyrch i annog menywod beichiog i gael y brechlyn ar ôl datgelu mai isel oedd nifer y menywod beichiog a oedd yn manteisio arno, gan gyfrannu at niferoedd uwch o bobl yn mynd i mewn i’r ysbyty.
Mae’r Ganolfan yn cael ei harwain gan feddyg teulu ac academydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Adrian Edwards, ac mae ei dîm craidd yn gweithio’n agos â phartneriaid cydweithredol fel Technoleg Iechyd Cymru, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth, Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor/ Economeg Iechyd a Gofal Cymru ac Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Meddai Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, yr Athro Adrian Edwards
Dywedodd: “Mae’r materion hyn o’r pwys mwyaf i ni ac rydyn ni’n falch iawn o allu bod wedi darparu’r dystiolaeth orau sydd ar gael i gefnogi Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill mewn da bryd i ddarparu sail ar gyfer penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud i’w galluogi i’n helpu ni i gyd.
“Wrth symud ymlaen, rydyn ni’n edrych ar sut y gall y llywodraeth, trwy ymchwil, helpu grwpiau yn y gymdeithas y gallai pethau fod wedi effeithio arnyn nhw’n benodol – menywod, pobl anabl, y gymuned LGBTQ+, pobl sy’n ddigartref neu yn y carchar, pobl â COVID hir a staff o leiafrifoedd ethnig yn y GIG.
“Ar gyfer COVID hir, ac yn fwy cyffredinol, rydyn ni hefyd nawr yn dechrau rhaglen o astudiaethau ymchwil newydd. Mae gwneud hyn fel rhan uniongyrchol o’r adolygiadau o dystiolaeth yn ddatblygiad mawr i Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru ar gyfer 2022, a bydd yn digwydd am y tro cyntaf yng Nghymru ymhlith yr holl ganolfannau tystiolaeth COVID o amgylch y byd. Rwy'n falch o waith a chyfraniad y tîm i fynd i'r afael â rhai o'r heriau difrifol a ddaw yn sgil y pandemig”
Meddai Prif Weinidog Cymru, yr Athro Mark Drakeford
Dywedodd : “Mae ymchwil a data gwyddonol yn offerynnau hanfodol i’n galluogi i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â sut rydyn ni’n mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf heriol rydyn ni’n eu hwynebu o ganlyniad i’r pandemig. Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru’n eu gwneud a bydd yn parhau i wneud hynny wrth i ni gefnogi ein cymunedau i fynd i’r afael ag effeithiau pellgyrhaeddol COVID-19.
Meddai Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe
Dywedodd : “Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi canolbwyntio ar sut y mae COVID-19 wedi newid y sector iechyd a gofal nawr ac yn yr hirdymor, ac mae’n dwyn yr ymchwil allweddol ynghyd sy’n ein helpu ni i ddeall y pandemig nawr ac ar gyfer ein penderfyniadau yn y dyfodol ynglŷn â’r cyfnod adfer.
“Mae dod â’r pandemig i ben yn dibynnu, yn y bôn, ar ymchwil yn darparu atebion o ran gwneud diagnosis, trin ac atal ac rydw i’n ddiolchgar iawn i’r Athro Edwards a’i dîm am y gwaith hyd yma wrth roi sylw i rai o effeithiau pellgyrhaeddol COVID-19.”