Sut y gallai therapi realiti rhithwir ymgolli helpu adsefydlu ac adfer ar ôl gofal dwys
21 Mai
I nodi Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol 2023 (20 Mai), a dathlu’r cyflawniadau rhagorol mewn astudiaethau iechyd a gofal a arweinir gan ymchwilwyr yng Nghymru i wella triniaethau a gofal i gleifion.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi ystod eang o ymchwil ledled Cymru gan gynnwys datblygiad triniaethau a thechnoleg newydd.
Mae un esiampl arweiniol gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, yn cynnwys defnyddio therapi realiti rhithwir (VR) ymgolli i helpu cleifion sy’n dioddef trawma ar ôl triniaeth mewn uned gofal dwys (ICU).
Mae Dr Ceri Lynch, Anesthetydd Ymgynghorol yn yr ysbyty, yn archwilio sut y gallai realiti rhithwir ymgolli helpu rhai cleifion gyda’u hadsefydliad a’u hadferiad, gyda ffigyrau’n dangos bod hyd at 80 y cant o’r rhai hynny sy’n cael eu derbyn i ofal dwys yn wynebu rhyw faint o syndrom ôl-ofal dwys (PICS) – sy’n achosi problemau corfforol a seicolegol.
Dywedodd Dr Lynch: "Mae’n bosibl y bydd gan bobl symptomau corfforol fel gwewyr, poen yn y frest a phroblemau anadl. Efallai y bydd ganddynt ben tost; mae blinder a gorflinder hefyd yn gyffredin iawn.
"Mae problemau seicolegol fel gorbryder, straen, iselder, a phroblemau cysgu yn gallu bod hefyd. Gallan nhw hefyd fod â phroblemau gwybyddol a phroblemau canolbwyntio.
Rydyn ni’n gweithio mor galed yn yr uned gofal dwys i achub bywydau pobl. Ond weithiau pan fyddwn ni’n siarad â chleifion sydd wedi goroesi, maen nhw’n dweud wrthym ni ‘Nid byw yw hwn."
Dywedodd Dr Lynch y gallai cleifion ganfod eu bod yn hollol ddibynnol ar bobl eraill i ofalu amdanynt ac y gallan nhw ddioddef o anhwylder straen wedi trawma ac ôl-fflachiadau gofidus oherwydd iddynt ddioddef salwch critigol.
Ychwanegodd: "Mae’r pethau yr ydyn ni’n eu gwneud i’w helpu nhw, fel rhoi tiwb anadlu yn eu gwddf, neu roi nodwyddau o dan y croen, yn gallu bod yn drawmatig. Mae cleifion yn ei chael hi’n anodd iawn cysgu oherwydd bod llawer o synau, goleuadau a gweithgaredd yn digwydd o’u cwmpas.
"Mae llawer o gleifion yn dioddef o ddeliriwm pan fo nhw’n sâl iawn. Os ydyn nhw’n cael llawer o feddyginiaeth, os oes ganddyn nhw dymheredd uchel neu’u bod yn dioddef oherwydd diffyg cwsg, maen nhw’n gallu mynd yn ddryslyd a gallan nhw gamddehongli pethau. Mae’n bosibl iddyn nhw ddioddef o rithwelediadau, sy’n gallu arwain at ôl-fflachiadau pan fyddan nhw wedi gadael gofal dwys."
Dywedodd Dr Lynch fod cleifion gan amlaf yn gofyn am daith o amgylch yr uned gofal dwys.
Maen nhw eisiau mynd i weld y gwely yr oedden nhw ynddo a chwrdd â’r staff. Pan fo nhw’n cael taith a phopeth wedi’i esbonio, mae’n help mawr iddyn nhw," ychwanegodd.
Dywedodd Dr Lynch - y mae ei hastudiaeth yn cael ei hariannu drwy’r Cynllun Ymchwil er budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) - drwy ddatblygu ap realiti rhithwir ymgolli, dywedodd y gallai cleifion ymgymryd ag ymarferion myfyrdod ac ymlacio dan arweiniad gyda chefnogaeth staff cymorth clinigol, ffisiotherapi a seicolegol heb orfod gadael eu cartref eu hunain.
Ychwanegodd:
Os ydyn ni wedi llwyddo i gael rhywun drwy ofal dwys a’i fod wedi goroesi, rydyn ni’n dueddol o ystyried hynny’n llwyddiant mawr. Ond nid yw goroesi’n ddigon - mae angen i ni wneud yn siŵr bod y person yna yn mynd ymlaen i gael bywyd o ansawdd da."
Gwnaeth un cyd-ymgeisydd y prosiect ymchwil, Craig Greenstock, wynebu syndrom ôl-ofal dwys ar ôl cael ei roi mewn coma wedi iddo ddal COVID-19 ym mis Rhagfyr 2020.Treuliodd bythefnos a hanner yn yr adran gofal dwys cyn iddo wella, gan ei ddisgrifio’n ‘amser cwbl hunllefus’.
Mae Craig, 61, o Bontypridd, nawr yn rhan o’r astudiaeth, gan gymryd rhan mewn cyfweliadau strwythuredig a grwpiau ffocws gyda chleifion eraill, yn ogystal â phrofi’r ap realiti rhithwir ymgolli o bersbectif claf.
Ychwanegodd: "Roeddwn i ar uned chwe gwely, a fi oedd yr unig berson i adael honno. Roedd e’n gyfnod cwbl hunllefus. Pan wnes i adael, roeddwn i’n cael ôl-fflachiadau a llawer o ofnau nos.
"Pan oeddwn i yn yr uned gofal dwys, cefais i ddwy freuddwyd fyw bod rhywbeth yn crafu yng nghefn fy ngwddf. Fel rhan o ‘ôl-fflachiadau’ eraill, rydw i’n dal i freuddwydio’n gyson y gwnes i farw ac roeddwn i’n gorwedd ar y ddaear gyda phopeth o fy nghwmpas yn dywyll.
"Cefais i freuddwydion eraill lle’r oedd pobl ar fy ôl i a fy nheulu, yn ceisio eu niweidio nhw. Dydw i ddim wedi breuddwydio fel yna erioed o’r blaen. Roedd y breuddwydion hyn yn teimlo’n wir iawn ac yn eithaf brawychus. Bydden i’n deffro’n sgrechian a gweiddi. Rydw i dal i gael yr ôl-fflachiadau nawr."
Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth, dywedodd Craig ei fod eisiau ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ i helpu cleifion eraill allai fod wedi wynebu trawma eu hunain.
Ychwanegodd:
Rwy’n berson positif iawn, roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Rydw i’n fwy na pharod i ddweud wrth gleifion eraill a throsglwyddo fy stori i dawelu eu meddyliau am y profiad trawmatig maen nhw wedi’i wynebu.
“Mae gen i ddiddordeb o safbwynt claf oherwydd rydw i eisiau helpu i gyfrannu os oes unrhyw beth i’w ddysgu o fy mhrofiad i. Rwy’n gweithio gyda’r tîm ymchwil ac yn eu cefnogi nhw, fel eu bod nhw’n gallu bwrw ymlaen â hyn a helpu mwy o bobl yn y dyfodol."
Ychwanegodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflawni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Rydym yn falch o gefnogi ein cymuned ymchwil ledled Cymru ar Ddiwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol, a chydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud i wella triniaeth a gofal cleifion, sydd wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud.”
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi’r gymuned ymchwil ag amryw o ddyfarniadau a chynlluniau ariannu, ac yn hyrwyddo cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn ymchwil.
Cofrestrwch nawr ar gyfer ein bwletin wythnosol i gael gwybod am yr holl ymchwil sy’n achub bywydau sy’n digwydd yng Nghymru.