“Mae cymryd rhan mewn ymchwil yn fy helpu i yn ogystal â rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen i helpu’r bobl a fydd yn wynebu canser yn y dyfodol”
21 Hydref
Cafodd Anthony Rendell, sy’n dad-cu 72 oed, o Rogiet yng Nghil-y-coed ddiagnosis o ganser prin o’r enw lymffoma celloedd mantell yn ystod Gwanwyn 2022.
Ac yntau yn uwch nyrs wedi ymddeol gyda theulu o glinigwyr, roedd yn awyddus i wybod yr holl opsiynau a oedd ar gael iddo cyn gynted ag y cafodd ei ddiagnosis.
Roedd ei ferch, Emma Heron, sy’n nyrs ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Clinigol: Ymchwil a Datblygu newydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent, gydag ef pan gafodd ei ddiagnosis ac awgrymodd dreial clinigol a oedd yn cael ei gynnal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Penderfynodd Mr Rendell gymryd rhan yn astudiaeth BeiGene sy’n ymchwilio i effeithlonrwydd cyffur gwrthganser ymchwiliadol wedi’i gyfuno â therapi drwytho gwrthgyrff.
Rhannwyd y cyfranogwyr ar hap yn ddau grŵp, un yn cael y driniaeth newydd a'r llall yn cael gofal safonol. Cafodd Anthony ei ddewis ar gyfer y driniaeth newydd, ac mae wedi bod yn rhan o’r astudiaeth ymchwil ers wyth wythnos erbyn hyn, a dywedodd:
Rydw i bob amser wedi ymddiddori mewn ymchwil, ac yn gwerthfawrogi bod angen tystiolaeth arnom i ddeall y triniaethau a’r gofal mwyaf buddiol.
Roedd cymryd rhan yn benderfyniad clir i mi, gan fy mod yn gwybod y byddwn yn cael gofal ardderchog; mae’r staff yn eich monitro’n ofalus iawn ac roeddwn yn gwybod y gallwn stopio ar unrhyw adeg os oedd gen i unrhyw sgil-effeithiau difrifol. Rwy’n adnabod y nyrsys ymchwil hematoleg wrth eu henwau ac maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n gartrefol.”
Yn ogystal â chael triniaeth reolaidd, mae gan Anthony lyfryn a siart dyddiol i'w llenwi, gan gofnodi'r union amser y mae'n cymryd ei dabledi, unrhyw sgil-effeithiau, ei bwysedd gwaed a’i dymheredd. Aeth yn ei flaen:
Rwy'n eithaf pragmatig. Pan gefais y diagnosis, roeddwn i eisiau gwybod y ffeithiau i gyd a sut y gallwn fyw’r bywyd gorau posibl, yn ogystal â helpu pobl eraill.
Rydw i yn blino. Bydd dyddiau pan fyddaf yn cerdded i gasglu fy wyres o'r ysgol a mynd â hi i'r parc neu i Brownis ac, o bryd i'w gilydd, bydd yn rhaid i mi yrru. Mae ein hwyrion i gyd yn deall nad ydw i mor egnïol ag yr oeddwn i gynt, ond rwy'n parhau i fwynhau bod gyda nhw, weithiau yn eistedd ar y fainc yn eu gwylio yn chwarae ac yn sgwrsio â fy nheulu neu bobl yn y parc.
Mae fy merch yn gweithio yn y ganolfan ymchwil newydd ac mae’n bleser gen i fod yn rhan o’r astudiaeth hon. O bryd i’w gilydd, bydd hi’n galw heibio i weld sut ydw i ac yn dweud wrtha i am wneud fel y mae’r staff yn ei ddweud! Rwy’n falch o gael y cyfle gwych hwn a’i fod yn cael ei gynnal mewn canolfan mor drawiadol, a hynny ar stepen fy nrws.”
Gall y Ganolfan Ymchwil Clinigol newydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent gyfrannu at dreialon cam 2 a cham 3 cenedlaethol a byd-eang bellach, gan roi’r cyfle i bobl yn ne Cymru gael triniaethau newydd o’r radd flaenaf. Ar hyn o bryd mae dros 100 o astudiaethau gweithredol ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan gynnwys ymchwilio i driniaethau ar gyfer cyflyrau anadlol, genomeg, canser a mwy.
Mae’r buddsoddiad hwn yn galluogi ymchwilwyr yng Nghymru i ategu’r ymchwil i COVID-19 sy’n achub bywydau a gynhaliwyd eisoes yng Nghasnewydd, a oedd yn cynnwys datblygu’r brechlyn COVID-19 cyntaf a achubodd miliynau o fywydau.
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth Ymchwil a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Mae’r buddsoddiad hwn yn ne Cymru yn caniatáu cynnydd sylweddol yng ngallu Cymru i gynnal ymchwil a all newid bywydau.
Erbyn hyn, mae gennym nifer o Gyfleusterau Ymchwil Clinigol pwrpasol ledled Cymru, sy’n creu cyfle i rwydweithio er mwyn parhau i gyfrannu’n sylweddol at astudiaethau cenedlaethol a byd-eang, er mwyn sicrhau ein bod yn aros ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.”
Agorodd Prif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Nicola Prygodzicz, y ganolfan ac roedd wrth ei bodd yn cael hyn fel ei hymgysylltiad cyhoeddus cyntaf. Dywedodd:
Mae hyn yn dangos cyfraniad anhygoel ein Bwrdd Iechyd i ymchwil Covid-19 ac rwyf mor falch bod gwaith cyn bwysiced yn cael ei gynnal yn y cyfleuster o'r radd flaenaf hwn yng Ngwent. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r partneriaid sydd wedi gweithio gyda ni ar hyd y ffordd ac rwy'n falch o fod wedi cael nifer ohonynt yn mynychu'r digwyddiad agor swyddogol hwn."
Dywedodd Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a Phartneriaethau Strategol a Chadeirydd Ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
Mae'n anhygoel gweld y gwaith sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd heriol diwethaf hyn yn dod â rhywbeth cyn bwysiced a chadarnhaol â Chanolfan Ymchwil Glinigol. Rwyf mor falch o'r tîm ac yn cael fy annog gan y gwaith a'r mewnwelediadau fydd yn deillio o'r cyfleusterau hyn yn y dyfodol. Yn y pendraw, fe fydd y gwaith hanfodol hwn yn chwarae rhan allweddol yn gwella iechyd pobl Gwent."
I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaethau a gynhelir yng Nghasnewydd, neu i gymryd rhan mewn ymchwil arall ledled Cymru, ewch i ymchwiliechydagofalcymru.org/bydhebymchwil