Dr Emma Rees

Gallai prawf uwchsain ‘ysbyty gartref' wella gofal am bobl hŷn sydd mewn risg o fethiant y galon

6 Awst

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ariannu ymchwil i weld a allai sgan uwchsain gartref wella ansawdd gofal am bobl hŷn sydd mewn risg o fethiant y galon.

Mae Dr Emma Rees, Athro Cyswllt Gwyddor Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn ymchwilio i effaith nyrsys yn ychwanegu sgan â ffocws ar y galon a’r ysgyfaint yn ystod eu hymweliadau â chartrefi pobl hŷn yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Mae Dr Rees hefyd wedi’i dewis ar gyfer rhaglen datblygu arweinyddiaeth Crwsibl Cymru y mae mawr alw amdani. Mae hon yn dod ag ymchwilwyr o ledled Cymru at ei gilydd ar gyfer cyfres o weithdai sy’n edrych ar sut y gall cydweithredu helpu i ateb yr heriau ymchwil y mae Cymru’n eu hwynebu a gwella effaith eu hastudiaethau eu hunain.  

Mae methiant y galon yn un o’r pethau cyffredin sy’n achosi diffyg anadl mewn pobl hŷn, ond mae nifer o gyflyrau tymor hir hefyd yn gallu ei achosi. Nid yw’r profion presennol yn y cartref yn ddigon manwl gywir i wneud diagnosis penodol, sy’n golygu bod angen i unigolion weithiau fynychu nifer o apwyntiadau yn yr ysbyty. Mae hyn yn gallu bod yn arbennig o anodd i bobl hŷn sydd o bosibl yn fwy eiddil, sydd â phroblemau symud neu dementia, neu sy’n byw mewn cartrefi gofal.

Mae ymchwil Dr Rees yn edrych i weld a yw ychwanegu sgan uwchsain at yr archwiliad presennol yn ystod ymweliad â’r cartref yn gwella’r gallu i bennu’r hyn sy’n achosi diffyg anadl yn fanwl gywir. Meddai Dr Rees:

“Mae sganwyr uwchsain llaw eisoes yn cael eu defnyddio wrth erchwyn y gwely mewn lleoliadau meddygol brys. Rydyn ni o’r farn y gallai nyrsys ddefnyddio’r dechnoleg hon gyda phobl hŷn mewn lleoliadau cymunedol i wneud penderfyniadau gwell ynglŷn â ph’un ai methiant y galon sy’n debygol o fod yn achosi diffyg anadl.

“Mae’n bosibl y gallai diagnosis mwy amserol o fethiant y galon, gyda chyngor a thriniaeth arbenigol cynnar i’r rheini sydd eu hangen, helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu rhuthro i’r ysbyty oherwydd eu bod yn ddifrifol wael. Gallai hyn helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys ac ar ambiwlansys.”

Annette Davies ydy’r ymarferydd clinigol uwch arweiniol yn Nhîm Clinigol Acíwt Castell-nedd Port Talbot. Cafodd ei hyfforddi i wneud profion uwchsain yn fan a lle’r gofal fel rhan o’r astudiaeth a dywedodd hi fod yr adborth oddi wrth gleifion yn “bositif iawn”.

“Mae hwn yn offeryn arall yn ein pecynnau cymorth i gadarnhau diagnosis. Gallwch chi weld mwy o lawer o fanylion ac archwilio rhannau o’r galon nad ydych chi’n gallu ei wneud fel rheol. Fe welson ni ryw 30 o gleifion ac roedden nhw i gyd yn gwerthfawrogi gallu cael y prawf gartref.”

Mae Dr Firdaus Adenwalla yn feddyg ymgynghorol â Thîm Clinigol Acíwt Castell-nedd Port Talbot. Mae ef hefyd o’r farn bod yr astudiaeth yn dangos buddion profion o’r fath gartref.

“Mae diffyg anadl yn gallu bod oherwydd amrywiaeth o resymau. Mae gallu gwneud yr archwiliad hwn gartref yn ddefnyddiol iawn i gadarnhau problem â’r galon ai peidio. Rydych chi yna’n gallu atgyfeirio claf yn gynharach ac mewn modd sydd wedi’i dargedu’n well.

“Fe fydd yr astudiaeth hon yn gwneud cryn dipyn i dawelu meddyliau cydweithwyr mewn gofal sylfaenol ac eilaidd ei bod yn bosibl defnyddio’r math hwn o dechnoleg yn ddiogel yn y gymuned."