Professor Andy Sewell

Ymosodiad y celloedd-T ffyrnig – Sut y gallai eich system imiwnedd ymladd canser

Yr Athro Andy Sewell sy’n sgwrsio gyda Dr Emma Yhnell am therapïau imiwnedd a dyfodol triniaethau canser ar ein podlediad Ble fydden ni heb ymchwil? Gwrandewch nawr o ble bynnag y cewch eich podlediadau.

Gallai therapïau canser newydd y mae ymchwilwyr yn eu hystyried olygu bod cleifion yn profi “bron dim” sgil-effeithiau ac yn ymladd canser gan ddefnyddio eu system imiwnedd eu hunain.

Mae Andy Sewell, athro yn yr Is-adran Heintiau ac Imiwnedd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio sut y gall systemau imiwnedd rhai unigolion prin glirio canser sydd yn y cyfnod terfynol, gyda'r nod hirdymor o "hyfforddi" y system imiwnedd mewn cleifion eraill, ac sydd â chanserau eraill, i wneud yr un peth.

O ffermio i PhD

Canfu Andy ei gariad at ymchwil wrth dyfu i fyny ar fferm. Dywedodd: "Tua dwywaith y flwyddyn byddai'r Weinyddiaeth Amaeth yn anfon rhywun a fyddai'n dweud wrthym a oedd ein cnydau'n ddiffygiol mewn mwynau neu a oedd ganddynt glefyd.

"O pan oeddwn i’n chwech neu saith oed byddwn i'n dilyn y dyn yma o gwmpas, roedd yn ddiddorol iawn. Roedd yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Amaethyddiaeth, ac roeddwn i eisiau bod yn union fel e’.

"Fe wnes i radd mewn cemeg yn y diwedd oherwydd roeddwn i'n eithaf hoff o wneud ffrwydradau, ond es i ymlaen i wneud PhD a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Amaethyddol yn gweithio ar blanhigion. Dyna beth ddaeth â fi i fyd ymchwil."

Ein system imiwnedd anhygoel

"Rwyf wastad wedi bod â diddordeb yn y ffordd y mae planhigion yn tyfu mewn amgylcheddau eithafol, ac roedd yn fy nharo i bod y system imiwnedd ddynol yn ymladd feirws yn enghraifft anhygoel o adfyd."

"Mae ein system imiwnedd yn ymladd canser bob dydd. Rydych chi wedi cael canser heddiw, byddwch chi wedi cael mwtaniadau sy'n achosi i gelloedd fynd o chwith, ac mae eich system imiwnedd wedi'i glirio.

"Mae digon o dystiolaeth i ddangos bod ein systemau imiwnedd yn ymladd canserau drwy'r amser."

Therapi celloedd-T

"Yn naturiol, mae celloedd-T, sydd gan bob un ohonom yn ein systemau imiwnedd, yn dda iawn am ymladd haint, ac mae ymchwilwyr yn gweithio ar ffyrdd o'u cael i chwilio am gelloedd canser a’u dinistrio.

"O ganlyniad i ymchwil, mae rhai triniaethau safonol bellach gyda chelloedd-T yn cael eu rhoi ar y GIG. Mae'r prif un ar gyfer mathau penodol o lewcemia.

"Mae meddygon yn cymryd celloedd-T y claf ei hun, maen nhw'n eu peiriannu'n enetig i adnabod celloedd canser, eu tyfu yn y labordy nes bod llawer iawn ohonyn nhw, ac yna rhoi'r celloedd-T yn ôl yng ngwaed y claf i ddod o hyd i'r canser a'i ladd.

"Mae ymchwil nawr yn ceisio ymestyn y dull hwn i ganserau eraill."

Dim sgîl-effeithiau

"Mae triniaethau canser ar hyn o bryd, fel cemotherapi, wedi'u cynllunio i ladd celloedd sy'n rhannu, ac mae eich system imiwnedd yn cynnwys celloedd sy’n rhannu felly mae’n effeithio’n wael arni, mae’n effeithio ar leinin eich stumog a’ch ffoliglau gwallt, dyna pam mae cleifion yn colli eu gwallt.

"Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw defnyddio manylion penodol y system imiwnedd i dargedu'r celloedd canser yn unig. Os gwneir therapi imiwnedd yn gywir, gallai cleifion osgoi'r sgil-effeithiau erchyll a achosir gan driniaethau canser gan fod gan gelloedd-T y gallu i ymosod ar gelloedd canser yn unig heb niweidio celloedd eraill y corff sy'n rhannu'n gyflym"

Dyfodol ymchwil canser

"Rwy'n credu'n llwyr ein bod ni ar ein ffordd at frechlynnau canser, sy'n llawer rhatach ac yn llawer llai ymledol na therapïau imiwnedd cyfredol.

"Byddai brechlyn canser yn mynd i mewn ac yn ysgogi eich celloedd-T ffyrnig i ddod o hyd i ganser a'i ddinistrio, yna eu gosod fel cof yn eich system imiwnedd. Mae hyn yn debyg i sut y gall haint blaenorol neu frechlyn eich atal rhag cael yr haint hwnnw eto. Dyna fy ngobaith ar gyfer y dyfodol.

"Does dim byd tebyg i gwrdd â chlaf canser yn y cyfnod terfynol sydd wedi cael tri mis i fyw, ac yna ei weld eto heb ganser flynyddoedd yn ddiweddarach o ganlyniad i imiwnotherapi yr oeddech yn rhan ohono.

"Dyna, yn sicr, yw'r swydd orau."