Dr Sarah Fry

Triniaeth goroesi tiwmor ar yr ymennydd yn ei hannog i ddilyn gyrfa ymchwil

17 Mai

II glywed rhagor gan Sarah, gwrandewch ar y podlediad Ble byddem ni heb ymchwil? gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru  ble bynnag yr ydych yn derbyn eich podlediadau. Tanysgrifiwch nawr

Yn 27 mlwydd oed, chwalwyd byd Dr Sarah Fry pan glywodd bod ganddi diwmor ar yr ymennydd. Tra’r oedd yn derbyn triniaeth, sylweddolodd Sarah mai i ymchwil yr oedd y diolch ei bod yn fyw.

Trwy ei gwaith ymchwil ei hun, mae Sarah, sydd yn awr yn rhydd oddi wrth ganser, yn ymdrechu i sicrhau bod cymunedau nad ydynt yn derbyn gofal haeddiannol yn teimlo bod ganddynt fynediad at yr un gwasanaethau gofal iechyd ag a gafodd hi.

Cymunedau nad ydynt yn derbyn gofal haeddiannol

Gan symud ymlaen o’i rôl fel nyrs A&E, cychwynnodd Sarah ei gyrfa ymchwil fel nyrs ymchwil gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Yn y clinig, sylwodd Sarah nad oedd yn gweld dynion Affrican nac Affrican-Caribi, grwp lle mae un o bob pedwar dyn yn debygol o ddatblygu canser prostad.

Bu hyn yn ysbrydoliaeth i Sarah arloesi drwy neilltuo ei phrosiect ymchwil cyntaf i ganolbwyntio ar ddynion nad ydynt yn dioddef o ganser y prostad a sicrhau eu bod yn deall y risg sydd iddynt o’i ddatblygu.

Dyma eiriau Sarah, sydd yn awr yn gweithio fel ymchwilydd a darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Fe ddysgais fod gan gymunedau Affrican ac Affrican Caribbï ddiwylliant penodol o ddysgu oddi wrth ei gilydd. Maent yn defnyddio  ‘ni’ yn hytrach na ‘fi’ wrth sôn am eu risg o gael canser.

“Mae’n ofynnol i ni, fel academyddion a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, fynd  allan i’r cymunedau hyn ac egluro risg mewn modd sydd yn golygu rhywbeth iddynt, a siarad am sut y mae’n effeithio arnynt fel cymuned yn hytrach nag fel unigolion.”

 Milltir Butetown

Tra’n siarad gyda chymunedau fel rhan o’i gwaith ymchwil, digwyddodd un o’r dynion grybwyll wrth Sarah bod yn gymuned yn colli cynnal digwyddiad a elwid y filltir Butetown gafodd ei sefydlu yn hwyr yn y 1990au.

Wedi trafod hyn gyda’r gymuned, roedd Sarah yn awyddus i ail lansio’r digwyddiad yn 2013.

Meddai Sarah: “Mae mor bwysig bod cymunedau yn gweld ymchwilwyr fel pobl sydd yn pryderu am yr hyn sydd yn digwydd ac nid fel pobl sydd yn dod i’w bywydau, yn casglu data ac yna yn gadael. Rwyf mof falch o fod wedi gallu ail lansio’r digwyddiad, mae’r gymuned i gyd wedi ymroi i fod yn rhan ohono.

“Pan ddaeth y rhedwyr yn agos at y llinell derfyn y flwyddyn gyntaf honno, roeddwn yn llawn emosiwn. Roedd yn syndod beth oeddem wedi ei gyflawni fel cymuned a dyma foment allweddol i mi.”

Parhau â’r gwaith

Yn ystod ei hastudiaeth nesaf, mae Sarah yn gobeithio creu amgylchedd lle mae’n haws rhannu gwybodaeth ynghylch iechyd.

Trwy holi gwahanol gymunedau sut y maent yn dehongli gwybodaeth ynghylch canser y prostad, mae Sarah yn gobeithio newid y wybodaeth hon fel ei bod yn fwy hygyrch.

Ar gyfer yr astudiaeth hon, fydd yn cychwyn ymhellach ymlaen eleni, mae Sarah yn ffurfio grwp o’r gymuned a fydd yn helpu i lunio a datblygu’r ymchwil hwn er mwyn gwneud yn siwr ei bod yn gofyn y cwestiynau cywir.

Ychwanegodd Sarah: “Rydwi yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch y prosiect hwn; rydym yn ei wynebu o bersbectif cymunedol yn hytrach na fy mod i fel ymchwilydd ddweud ‘Dyma beth ydwi am ei wneud’.

“Yn fy marn i, mae’n hanfodol bwysig bod aelodau’r gymuned yn rhan o’r fenter ymchwil o’r cychwyn cyntaf fel y gallwn adeiladu ar hyn mewn modd sydd fwyaf defnyddiol iddynt hwy.”