Image of Zaina Aljumma

Defnyddio ymarfer corff fel strategaeth ymdopi ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches

21 Mai

Mae o leiaf traean o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn byw gyda phroblemau meddyliol a chorfforol a achosir gan brofiadau trawmatig yn eu mamwlad ac yn ystod eu taith i ddiogelwch. Mae ymchwil wedi dangos y gall y symptomau meddyliol a chorfforol hyn orgyffwrdd, gan ei gwneud hi’n anodd trin y person cyfan gan nad yw darpariaeth gofal iechyd meddwl a chorfforol cwbl integredig ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’r niwrowyddonydd, Dr Paula Foscarini-Craggs, Rheolwr Treialon yn y Ganolfan Ymchwil Treialon Clinigol yn arwain prosiect ymyrraeth hunangymorth seiliedig ar symud dan arweiniad. Mae'r astudiaeth yn ceisio darparu tystiolaeth i gefnogi ymyriad symud corfforol er mwyn helpu'r rhai sy'n ceisio noddfa i reoli'r heriau iechyd meddwl a chorfforol sy'n deillio o fabwysiadu trawma i arferion yng Nghymru. 

Roedd Zaina Aljumma, cyfranogwr yn yr astudiaeth, am helpu i lunio’r dull llesiant ar gyfer ceiswyr lloches yng Nghymru a hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer corff fel strategaeth ymdopi. Roedd Zaina am rannu ei barn ar gyfranogiad y cyhoedd ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn ymchwil.

Dywedodd Zaina: “Pan ddarllenais y crynodeb o’r astudiaeth ymchwil, roedd yn rymusol iawn oherwydd, ar y pryd, roeddwn yn geisiwr lloches o Syria yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19. Yr unig beth a helpodd fy iechyd meddwl oedd cadw’n egnïol.

"Rwy’n credu y gall manteisio ar gyfleoedd ymarfer corff wella ansawdd bywyd, yn enwedig i’r rhai sydd wedi wynebu cyfnodau heriol. Mae’n bwysig i mi helpu ffoaduriaid y dyfodol, ac mae cymryd rhan mewn ymchwil wedi fy ngalluogi i wneud hynny.

"Pan fydd pobl yn cymryd rhan mewn ymchwil, gallant hefyd helpu i ddatgelu canlyniadau annisgwyl i wella meysydd ymchwil eraill, a all yn y pen draw sicrhau effeithiau cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

"Rwy'n credu y byddem heb ymchwil yn byw bywydau chwilfrydig iawn. Byddai pobl yn cynhyrchu syniadau ar hap yn amherthnasol i'r gymuned, gan wastraffu amser, egni ac arian. Mae cael y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymchwil yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol meddygaeth a lles." 

Cofrestrwch ar gyfer  cylchlythyr Ymchwil Heddiw i ddysgu sut y gallwch helpu neu gymryd rhan mewn ymchwil.