Nyrs ymchwil sy'n mynd i glaf.

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth 2023

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth eleni, hoffai Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru daflu goleuni ar rai o’r menywod anhygoel mewn ymchwil. 

Mae Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn siarad am ei thaith i ymchwil fel nyrs. Dywedodd Jayne:

“Rwy’n uchelgeisiol o ran cael cydnabyddiaeth i nyrsys ymchwil a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ac rwyf wedi ymrwymo i ddangos eu gwerth wrth barhau i wella gofal cleifion yng Nghymru.”

Mae Brittany Nocivelli, ymchwilydd ifanc dawnus, yn rhannu mewnwelediadau am ei phrosiect PhD, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n canolbwyntio ar gynnwys preswylwyr cartrefi gofal mewn ymchwil. Dywedodd Britanny:

Rydw i eisiau rhoi llais i breswylwyr cartrefi gofal mewn ymchwil”. 

Daeth Yr Athro Ceri Battle, yn Athro Anrhydeddus mewn Trawma a Gofal Brys. Dywedodd yr Athro Ceri Battle, Cyd-Arweinydd Arbenigol ar gyfer Trawma a Gofal Brys, sydd â Chymrodoriaeth Ymchwil Iechyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n caniatáu iddi ganolbwyntio ar ei harbenigedd o waith trawma ar y frest, ei bod yn ‘anrhydedd’ i fod wedi derbyn y wobr, ar ôl iddi fod yn gweithio ar dri threial cenedlaethol yn ymwneud ag anafiadau i'r frest.

Daeth Dr Sarah Fry yn nyrs ymchwil ar ôl goroesi triniaeth tiwmor yr ymennydd.Yn 27 oed, cafodd byd Dr Sarah Fry ei droi wyneb i waered pan ddarganfu fod ganddi diwmor ar yr ymennydd. Wrth dderbyn ei thriniaeth, sylweddolodd Sarah ei bod yn dal yn fyw oherwydd ymchwil. Clywch fwy ar bodlediad ‘Ble fydden ni heb ymchwil?’ gan Sarah ar Iechyd ac Ymchwil Gofal Cymru, ar gaelo ble bynnag rydych yn cael eich podlediadau. 

Penodwyd Yr Athro Monica Busse yn gyfarwyddwr Cyfadran newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae ymchwil yr Athro Busse wedi cyfrannu at y canllawiau clinigol ffisiotherapi rhyngwladol cyntaf ar sail tystiolaeth i Glefyd Huntington. Mae hi hefyd yn un o'r prif ymchwilwyr ar astudiaeth sy'n profi rhaglen cymorth hunanreoli bersonol ar gyfer pobl sy'n byw gyda COVID hir (astudiaeth LISTEN). 

Mae Dr Zoe Fisher, seicolegydd clinigol ymgynghorol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac enillydd Gwobr Advancing Healthcare am Gyfraniad Eithriadol i Gyflenwi Ymchwil, yn arwain gwasanaeth niwroadsefydlu cymunedol i bobl sy'n byw ag anaf caffaeledig i'r ymennydd.  

Mae Dr Nina Maxwell, prif gymrawd ymchwil a Chyd-Arweinydd Arbenigol Gofal Cymdeithasol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn helpu i amddiffyn plant rhag camfanteisio troseddol drwy ddatblygu adnoddau sy’n benodol i Gymru ar gyfer ymarferwyr, rhieni a phobl ifanc. Dywedodd Dr Maxwell:

Mae neges yn y cyfryngau mai un trawstoriad o gymdeithas yn bennaf sy’n cael eu hecsbloetio’n droseddol, ond rydw i wedi siarad â phobl ifanc o bob cefndir sy’n cael eu targedu a’u paratoi, a rhieni na feddyliodd erioed y byddai'n digwydd i'w plant nhw.”