Wendy Scrase

Dyma Wendy – eich nyrs ymchwil

Mae gwyddonwyr, ymchwilwyr, meddygon, nyrsus, clinigwyr a gweithwyr gofal talentog ledled Cymru yn neilltuo eu hamser a’u hymdrech i ddatblygu triniaethau a gofal hanfodol ar ein cyfer. 

Mae Wendy Scrase yn un o dros 260 o nyrsus ymchwil yng Nghymru sydd yn gwneud yr astudiaethau ymchwil hyn yn bosibl. Mae’n gweithio Ysbyty Gwynedd, ym Mangor, ac wedi bod yn gweithio yn adran ymchwil a datblygu’r ysbyty am 10 mlynedd. 

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrs, dewch i gyfarfod Wendy a dysgu mwy am waith nyrs ymchwil. 

Beth ydy nyrs ymchwil?

Mae nyrsus ymchwil yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod astudiaethau ymchwil clinigol yn mynd rhagddynt yn esmwyth a bod y cyfranogwyr yn ddiogel ac yn derbyn gwybodaeth lawn. 

“Mae fy swydd yn amrywio cymaint o ddydd i ddydd. Pan fydd gennym astudiaethau yn mynd ymlaen yn yr ysbyty, rydym yno yn rhyngweithio gyda chleifion ar y wardiau, yn recriwtio cyfranogwyr ac yn hyrwyddo’r gwaith.   

“Pan na fydd astudiaethau gweithredol yn mynd ymlaen, rydym yn brysur ar y cyfrifiadur yn mewnosod data, yn ymateb i ymholiadau ac yn paratoi astudiaethau newydd sydd i’w cychwyn.

“Er enghraifft, yn y flwyddyn ddiwethaf rydwi wedi gweithio gyda dwy astudiaeth casglu gwaed sydd yn gobeithio cynnig ffyrdd newydd o ganfod canser trwy DNA. Bydd hyn yn ysgafnhau’r baich ar y claf sydd yn gorfod dioddef triniaethau diagnostig ymledol fel endoscopis. 

“Mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae hynny wrth fy modd.”

Beth ydy’r peth gorau am dy swydd?

“Y peth gorau am fy swydd ydy fy nghydweithwyr – wrth gwrs y cleifion a’r cyfranogwyr, ond hefyd fy nhïm rhyfeddol. Rydwi yn lwcus fy mod yn gweithio gyda chlinigwyr sydd mor frwdfrydig ynghylch ymchwil ac sydd yn gwybod pa mor bwysig ydy ymchwil.

“’Dwi’n meddwl bod fy swydd i yn un o’r rhai gorau yn y byd!”

Pam bod cymryd rhan mewn ymchwil mor bwysig i bawb?

“Mae’n bwysig iawn bod aelodau’r cyhoedd yn cymryd rhan mewn ymchwil. 

“Rydw i yn credu’n gryf iawn y dylai pobl ym mhob rhan o’r DU, hyd yn oed y rhannau mwyaf diarffordd o Ogledd Cymru, gael y cynnig i gymryd rhan mewn ymchwil. 

“Waeth pa mor fach yw’r ysbyty, fe ddylid cynnig dewis o driniaethau. Mae bob amser welliannau i’w gwneud i ofal iechyd trwy ymchwil ac rydym angen cyrfanogwyr i wneud y gwelliannau hyn yn bosibl.”

Fuo yna amser pan oedd ymchwil o gymorth i ti a’th deulu?

“Mae gen i berthynas sydd yn dioddef o ganser prostad, ac mae o wedi bod yn rhan o astudiaeth ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn. Mae wedi byw y tu hwnt i’r disgwyliad amser o gafodd gyda’r diagnosis, ac mae’n gweld ymchwil fel rhodd werthfawr.”

Ble byddem ni heb ymchwil?

“Heb ymchwil, byddai’r byd y lle trist iawn. Fe fyddem yn gweithio gyda systemau nad ydynt bob amser yn gweithio. Mae treialon dan reolaeth – cymharu un driniaeth neu ddull gydag un arall – yn hanfodol er mwyn canfod beth sydd yn wir yn gweithio.   

“Yn fy marn i, fedrwn ni byth fod yn fodlon ynghylch gofal iechyd a chredu ein bod wedi cyrraedd ein nôd terfynol.”

I ganfod rhagor ynghylch y bobl y tu ôl i’r ymchwil a  sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau.

I dderbyn y newyddion diweddaraf am ymchwil yng Nghymru ar eich cyfrifiadur,  gofynnwch am ein bwletin wythnosol.