Dot Davies podcast host

“Mae ymchwil yn rhoi gobaith i chi”

Gwrandewch ar sgwrs Dot gydag ymchwilwyr ysbrydoledig ar ein podlediad Ble fydden ni heb ymchwil? ym mis Mehefin o ble bynnag y cewch eich podlediadau, tanysgrifiwch nawr.

Yn fam i dri o blant, magwyd Dot Davies yn Aberteifi, Gorllewin Cymru ac mae wedi cael gyrfa anhygoel mewn newyddiaduraeth, yn cyflwyno rhaglenni teledu a radio ar gyfer sianeli fel BBC, ITV ac S4C.

Prosiect cyffrous nesaf Dot yw cynnal ein podlediad Ble fydden ni heb ymchwil?

Meddwl mwy am ymchwil

“Fel rhiant, rydych chi'n mynd â'ch plant i gael eu brechlynnau, a dydych chi ddim wir yn meddwl sut y crëwyd y brechlynnau yn y lle cyntaf. Mae'n beth haniaethol. Ond, trwy COVID-19, dechreuodd pobl gael gwir ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o sut yr oeddem i gyd yn mynd i elwa o ymchwil.

“Bûm yn ffodus iawn yn ystod y pandemig, cefais gyfle i siarad â llawer o wahanol bobl ar fy sioe radio a’r un cysur yr oedd pawb yn dal eu gafael ynddo oedd 'un diwrnod, bydd brechlyn ar gyfer Covid'. Yr unig ffordd i ni ei gael hynny oedd trwy ymdrechion diflino ymchwilwyr, maen nhw'n gwneud bywyd yn well i bob un ohonom.”

Ymchwil a’r teulu

“Mae aelod o fy nheulu wedi cofrestru i roi mêr esgyrn, cawsant eu paru drwy'r gofrestr a rhoi mêr eu hesgyrn i ddieithryn llwyr. Rwy’n cofio eistedd i lawr gyda nhw a meddwl sut y daethom at bwynt lle’r oedd gwyddoniaeth yn eu galluogi nhw i gael eu paru â dyn oedd yn byw yng ngogledd Lloegr, a sut y cawsant y cyfle i achub ei fywyd. Dyna lle mae ymchwil yn eich arwain - pa mor rhyfeddol yw hynny?

“I mi, mae ymchwil yn ymwneud â’r lles mwyaf, sut y gall dynoliaeth helpu ei hun a gwella ansawdd bywyd.”

Dysgu am ymchwil yn y gwaith

“Yn ddiweddar, bûm yn gweithio ar raglen i S4C am glefyd motor niwron (MND), cyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r nerfau. Cyfarfûm â’r holl deuluoedd hyn ag anwyliaid yr effeithiwyd arnynt gan y clefyd, ac, ar hyn o bryd, nid oes diweddglo hapus iddynt.

“Ond, gydag ymchwil, gobeithio un diwrnod na fydd rhaid i deuluoedd fynd trwy’r hyn mae’r teuluoedd presennol yn ei wynebu.

“Yn ystod y ffilmio, fe wnes i gyfarfod â phobl ysbrydoledig sy’n byw gyda MMD, ac mae un dyn yn gobeithio cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil yng Nghymru yn fuan. Dywedodd ei fod yn gwybod ei bod hi'n rhy hwyr iddo ef, nad yw'r treial yn mynd i'w achub, ond ei fod yn gobeithio trwy fod yn rhan o'r ymchwil hwn y gall helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell, neu hyd yn oed iachâd, i eraill yn y dyfodol.”

Ble fydden ni heb ymchwil?

Nid wyf yn smalio fy mod yn deall beth mae ymchwilwyr yn ei wneud, ond gwn fod ymchwil yn rhoi gobaith ichi, a dyna sydd ei angen arnoch.

“Rydyn ni i gyd yn gobeithio am driniaethau neu iachâd ar gyfer gwahanol afiechydon, neu hyd yn oed iachâd hollgynhwysol i ganser. Ond ni fydd y pethau hyn yn digwydd heb ymchwil, heb y bobl hyn sy'n gweithio tuag ato – ‘wnaiff e’n syml ddim digwydd.”

Gallwch wrando hefyd gan Dr Emma Yhnell, gwesteiwr ein podlediad Ble fydden ni heb ymchwil? ar ein tudalen blog.