Image of Carolyn Wallace

Defnyddio presgripsiynu cymdeithasol i wneud newidiadau cadarnhaol i iechyd a lles

Ers 2017, mae’r Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru (WSSPR), sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan PRIME Cymru ac sydd wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi bod yn gweithio i wella lles pobl drwy roi presgripsiynu cymdeithasol ar waith mewn gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae ymchwilwyr yn gobeithio deall mwy am y ffordd y gall ein hiechyd a’n lles gael eu gwella drwy fwy o ryngweithio cymdeithasol gyda’n cymunedau, ochr yn ochr â rhagnodi meddyginiaeth fel triniaeth neu yn lle hynny.

Nod presgripsiynu cymdeithasol yw helpu pobl i ailgysylltu â gweithgareddau, grwpiau a gwasanaethau yn eu cymuned er mwyn ateb anghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u lles. Gall gweithgareddau presgripsiynu amrywio o wirfoddoli i arddio cymunedol, mynd am dro yn y parc gyda ffrind neu ymuno â dosbarth ioga.

Fel arfer, bydd unigolion sy’n cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu yn cael eu “cyfeillio” ag ymarferydd presgripsiynu cymdeithasol a elwir weithiau’n weithiwr cyswllt neu’n gysylltwr cymunedol. Mae ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol yn gwrando ar bobl er mwyn ceisio deall eu sefyllfa, yn nodi’r broblem ac yna’n cysylltu â phobl yn y gymuned er mwyn dod o hyd i atebion cymdeithasol i’w cefnogi.

Ychwanegodd yr Athro Carolyn Wallace, Cyfarwyddwr WSSPR: 

“Mae’n bwysig gwrando ar bryderon a rhwystredigaeth pobl a’u helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Mae hyn yn cynnwys llunio cynllun ar gyfer symud ymlaen a’u helpu i ailadeiladu eu bywydau.”

“Mae presgripsiynu cymdeithasol wedi profi i fod yn ateb effeithiol y gall meddygon a gweithwyr proffesiynol eraill ei ddefnyddio i helpu’r rheini sydd mewn angen. Yn ôl gwaith ymchwil, gall presgripsiynu cymdeithasol leihau’r pwysau sydd ar y GIG drwy leihau’r galw am apwyntiadau gyda meddygon teulu a phresgripsiynau meddygol.”

 

Mae’r Athro Wallace hefyd wedi sôn am y gwaith y mae’n ei wneud i ddatblygu dull newydd a fydd yn helpu teuluoedd sydd â phlant 5 oed ac iau i fynd i’r afael â sefyllfaoedd anodd sy’n achosi straen iddynt, fel profedigaeth neu bryderon ariannol. 

Mae cydnerthedd teuluoedd yn cyfeirio at allu teuluoedd i ofalu am ei gilydd yn dda, hyd yn oed pan fyddant yn wynebu cyfnodau anodd. Yn ôl yr Athro Wallace, bydd yr Offeryn a Dull Asesu Cydnerthedd Teuluoedd (FRAIT) yn helpu ymwelwyr iechyd i nodi’r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd i ddelio â’r sefyllfaoedd anodd sy’n eu hwynebu, hyrwyddo lles yn gyffredinol a helpu i ddatblygu dull rhagweithiol o ymdrin â chydnerthedd teuluoedd.  

Dywedodd: “Gall Ymwelwyr Iechyd ddefnyddio FRAIT yn eu hymarfer bob dydd i asesu problemau sy’n cael eu nodi’n gynnar o fewn teuluoedd a helpu i nodi’r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd i ddelio â’r sefyllfaoedd anodd sy’n eu hwynebu a hyrwyddo lles yn gyffredinol. 

“Nod GIG Cymru yw sicrhau bod dull Cymru gyfan ar gael i nodi anghenion teuluoedd yn seiliedig ar asesiadau cyson a dibynadwy, defnydd darbodus o adnoddau iechyd, a chanlyniadau iechyd mesuradwy. Bydd hyn yn helpu i wella iechyd y genedl yn y byrdymor a’r hirdymor.”

Ble fydden ni heb ymchwil?  

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Ymchwil Heddiw i ddysgu mwy am ymchwil sy’n newid bywydau sy’n digwydd yng Nghymru.