Yr Athro Carolyn Wallace

Yr Athro Carolyn Wallace

Cyfarwyddwe

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Gwobr: Cynllun Ysgoloriaeth ar gyfer Doethuriaeth mewn Gofal Cymdeithasol (Hydref 2021-Medi 2024)

Teitl y prosiect: Developing a Training Package for Link Workers in Wales using a Realist Approach.


Carolyn yw Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) sy’n gweithio’n agos â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Ysgol rithwir ar gyfer Cymru gyfan yw WSSPR, â’r nod o ddatblygu methodoleg gwerthuso rhagnodi cymdeithasol, gan adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd yn flaenorol gan Rwydwaith Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSPRN). Mae hyn yn ychwanegol at themâu rhyngddisgyblaethol arall sef addysg, gwerth cymdeithasol a llesiant. Mae aelodaeth yr ysgol yn cynnwys cydweithwyr o’r byd academaidd, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r cyhoedd. Mae WSSPR hefyd yn sail i gylch diddordeb rhagnodi cymdeithasol Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (rhwydwaith  byd-eang Prifysgolion y Cenhedloedd Unedig).

Dros y blynyddoedd, mae Carolyn wedi datblygu arbenigedd mewn ymchwil dulliau cymysg ansoddol a chymhwysol gan gynnwys mapio cysyniadau grŵp, dulliau consensws, ac adolygu a gwerthuso realaidd. Nyrs yw Carolyn â thros 20 mlynedd o brofiad gweithio mewn rolau ymarfer a rheoli. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Age Cymru Gwent.


Yn y newyddion:           

Defnyddio presgripsiynu cymdeithasol i wneud newidiadau cadarnhaol i iechyd a lles (Mai 2023)

Dyfarnu bron i £6.5 miliwn i ymchwil achub bywyd yng Nghymru (Hydref 2021)

Sefydliad

Sefydliad Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru

Cysylltwch â Carolyn

E-bost 

Ffôn: 01443 483839

Twitter