David Morgans

Triniaeth inswlin wythnosol newydd yn cynnig gobaith i bobl â diabetes yng Nghymru ar ganmlwyddiant inswlin

Mae triniaeth inswlin wythnosol ymchwiliol newydd sy'n cael ei threialu yn Ysbyty Singleton yn Abertawe yn cynnig gobaith o ansawdd bywyd gwell i bobl â diabetes.

Mae pawb sydd â diabetes math 1 yn chwistrellu inswlin sawl gwaith y dydd i reoli lefel y siwgr yn eu gwaed, sy'n golygu monitro eu corff a'r hyn y maen nhw’n ei fwyta yn ofalus.

Mae angen i lawer o bobl sydd â diabetes math 2 hefyd chwistrellu inswlin fel rhan o'u triniaeth. Dim ond unwaith yr wythnos y caiff y driniaeth inswlin hirdymor newydd hon ei chwistrellu o'i chymharu â thriniaethau inswlin eraill, sy'n cael eu cymryd bob dydd.

Daw'r ymchwil hon 100 mlynedd ers defnyddio inswlin am y tro cyntaf i drin diabetes pan gafodd Leonard Thompson o Ganada y pigiad cyntaf o inswlin ym mis Ionawr 1922.

Dywedodd yr Athro Steve Bain, Arweinydd Arbenigol ar gyfer Diabetes yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrif Ymchwilydd y treialon hyn: "Mae triniaethau diabetes cynnar yn cynnwys llawer o bigiadau poenus i gleifion ac roedd yr inswlin a ddefnyddiwyd bryd hynny yn llai pur, a oedd yn arwain at fwy o sgil-effeithiau.

"Yn ffodus, mae ymchwil wedi datblygu triniaethau ac mae bywyd bob dydd pobl sydd â diabetes yn llawer gwell nawr, ond mae rhai yn dal i orfod cymryd pedwar neu pum pigiad y dydd. Gallai’r inswlin newydd yr ydym yn ei dreialu olygu llai o bigiadau ac ansawdd bywyd gwell i bobl â diabetes."

Mae dau dreial clinigol ar y gweill yn Ysbyty Singleton. Mae ONWARDS 6 yn profi sut mae'r inswlin unwaith yr wythnos yn gweithio i bobl sydd â diabetes math 1 ac ONWARDS 1 ar gyfer y rhai hynny sydd â diabetes math 2. Disgwylir i'r ddau dreial ddod i ben tua diwedd 2022 ac fe'u cyflwynir gan y Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae David Morgans, 70, yn athro ysgol gynradd wedi ymddeol o Sgeti yn Abertawe. Cafodd ddiagnosis o ddiabetes math 1 am y tro cyntaf yn 1969 pan oedd yn 17 oed ac mae'n cymryd rhan yn y treial ONWARDS 6.

Dywedodd David: "Pan ges i ddiagnosis o ddiabetes roedd bron yn rhyddhad i gael gwybod. Yn anffodus, bu farw fy ewythr o ddiabetes math 1 pan oedd yn 21 oed, felly pan ddechreuais golli llawer o bwysau a chael symptomau eraill yn fy arddegau es yn syth at fy meddyg teulu. Cefais bigiad inswlin ac o fewn ychydig ddyddiau roeddwn i'n teimlo'n well.

"Mae cymryd rhan mewn ymchwil wedi fy helpu i ddysgu mwy am ddiabetes, yn ogystal â datblygiadau newydd mewn triniaethau a thechnoleg. Rwyf wedi byw gyda diabetes ers dros 50 mlynedd ac mae cymaint wedi gwella diolch i ymchwil. Pan gefais ddiagnosis am y tro cyntaf, nid oedd gennym chwistrellau tafladwy na monitorau glwcos gwaed, sydd bellach yn ei gwneud yn haws cymryd inswlin. Os bydd y treial inswlin unwaith yr wythnos hwn yn llwyddiannus, gobeithio y bydd o fudd i lawer o bobl fel fi yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Diolch i ddatblygiad triniaeth inswlin 100 mlynedd yn ôl gall pobl sydd â diabetes heddiw fyw bywydau hir ac iach. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i gefnogi a chyflwyno datblygiadau ymchwil yma yng Nghymru a fydd yn gwella bywydau pobl â diabetes ledled y DU ac yn rhyngwladol."

Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau

I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol