Athro Ian Jones

Yr ymchwilydd Cymreig y tu ôl i stori seicosis ôl-enedigol EastEnders

Dysgwch fwy am Ian a’i waith ar iechyd meddwl mamol ar bodlediad Ble fydden ni heb ymchwil? Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Gwrandwch arno ble bynnag rydych yn cael eich podlediadau.

Yn 2016, gwelodd y gwylwyr gymeriad EastEnders Stacey Slater yn cael trafferth ar ôl cael diagnosis o anhwylder deubegynol a phrofiad o seicosis ôl-enedigol, yn dilyn genedigaeth ei mab.

Heddiw, mae’r Athro Ian Jones o Gaerdydd, a weithiodd gydag EastEnders ar y stori hon, yn hyrwyddo ymchwil i drin ac atal y salwch hwn sy’n effeithio ar un o bob pump o fenywod ag anhwylder deubegynol.

Ysbrydoliaeth Ian

Wrth ddechrau ei yrfa fel seiciatrydd, ysgogwyd Ian i ymchwilio oherwydd “rhwystredigaeth” gyda lefel y wybodaeth am iechyd meddwl menywod.

Ar ôl gweithio gydag ymchwilydd arall yn recriwtio pobl ag anhwylder deubegynol i astudiaeth, synnwyd Ian o weld nifer y menywod a brofodd eu pwl difrifol cyntaf o salwch iechyd meddwl yn dilyn genedigaeth.

Nawr Ian yw cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ac un o uwch arweinwyr ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rwy’n meddwl nad oes digon o ymchwil i iechyd meddwl menywod.

“Yr hyn rydyn ni'n gwybod amdano ers cannoedd, os nad miloedd o flynyddoedd, yw y gall cael babi fod yn sbardun go iawn i rai menywod gael cyfnodau o salwch difrifol.”

Helpu mamau ag anhwylder deubegynol

Rhan hanfodol o unrhyw ymchwil yw arweiniad gan y rhai sy'n byw gyda'r afiechyd. Mewn astudiaeth ddiweddar, gofynnodd Ian am gymorth menywod ag anhwylder deubegynol er mwyn iddo ddeall sut y maent yn gwneud penderfyniadau yn ymwneud â'u salwch.

Gyda'u cefnogaeth, roedd ymchwilwyr yn gallu datblygu canllaw y gall menywod ag anhwylder deubegynol ei ddefnyddio i'w helpu i ddeall risgiau beichiogrwydd ac i lywio eu camau nesaf.

Dywedodd Ian: “Mae’r canllaw yn gymorth hanfodol i fenywod sydd angen gwneud penderfyniadau hynod anodd ynglŷn â pharhau â meddyginiaeth, neu roi’r gorau iddi er mwyn beichiogi.”

“Fydden ni ddim wedi gallu ei wneud heb aelodau o’r cyhoedd, maen nhw’n rhan allweddol o’r jig-so ymchwil, hebddyn nhw does dim byd yn mynd i weithio.”

Rhoi gwybodaeth i gynhyrchwyr EastEnders

Yn 2015, ynghyd â Clare Dolman sydd â phrofiad byw o anhwylder deubegynol a seicosis ôl-enedigol, ymwelodd Ian â Stiwdio Elstree lle mae EastEnders yn cael ei ffilmio, a chyflwynodd y syniad y gallai Stacey Slater feichiog brofi seicosis ôl-enedigol ar ôl rhoi genedigaeth.

Dywedodd Ian: “Roedden ni’n gwybod bod gan EastEnders gymeriad deubegynol ar y rhaglen a oedd yn feichiog, ac fe wnaethon ni feddwl am ffordd wych o gael y gair allan am gyflwr sy’n cael ei gamddeall yn ddirfawr.

“Mae’n bosibl mai dyma un o’r pethau pwysicaf i mi ei wneud yn fy ngyrfa.”

Gwyliwyd y stori gan dros 10 miliwn o bobl, ac o ganlyniad, gwelodd yr elusen Action on Postpartum Psychosis eu cysylltiad â’r cyhoedd yn cynyddu o 400%.

Gwell dyfodol

Gan barhau i ymdrechu i gael gwell triniaethau a gofal i fenywod, mae Ian yn lansio astudiaeth newydd i fenywod sy’n cael eu derbyn i unedau mamau a babanod ledled y DU yn ddiweddarach eleni.

Nod yr astudiaeth yw datblygu triniaethau newydd ar gyfer mamau newydd sy'n profi'r rhithweledigaethau, lledrithiau a'r newidiadau difrifol mewn hwyliau a ddaw yn sgîl seicosis ôl-enedigol.

Daeth Ian i’r casgliad: “Mae angen i ni ddeall pethau’n well er mwyn y nifer enfawr o fenywod sy’n profi seicosis ôl-enedigol.

“Fel ymchwilydd, rwy’n meddwl y gallwch chi wneud newidiadau mawr a allai effeithio nid yn unig ar yr ychydig gleifion rydych chi’n eu gweld, ond cannoedd lawer, neu hyd yn oed filoedd ledled y byd.”