Cadwch y dyddiad ar gyfer y Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd nesaf
22 Gorffennaf
Yn dilyn llwyddiant Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd cyntaf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cynhelir yr ail ddigwyddiad yn ystod dwy sesiwn ar 4 ac 11 Tachwedd 2021 ar Zoom.
Daeth bron i 100 o bobl i'r Fforwm cyntaf a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod ym mis Mai 2021.
Rhwydwaith i ymchwilwyr, y cyhoedd ac eraill sy'n gweithio ym maes ymchwil yng Nghymru yw'r Fforwm i drafod materion ac ysgogi gwelliant o ran cynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Roedd y Fforwm cyntaf yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr a ystyriodd sut y gall y cyhoedd fod yn rhan o flaenoriaethu ymchwil yng Nghymru a pha gamau y gellid eu cymryd i wneud ymchwil yn fwy cynhwysol.
Dywedodd Reshma Raycoba, Pennaeth Dros Dro Cynnwys y Cyhoedd yn Llywodraeth Cymru, sy'n cadeirio'r Fforwm: "Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan yn ein Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd cyntaf. Bydd y Fforwm yn cefnogi arfer da ac yn hyrwyddo effaith cynnwys y cyhoedd ar draws ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol drwy gydweithio ledled Cymru."
Trwy arolwg, gofynnwyd i bobl sy'n gweithio ym maes ymchwil iechyd a gofal a'r cyhoedd beth yr oeddent yn dymuno ei flaenoriaethu dros y flwyddyn nesaf. Cyflwynwyd y canlyniadau yn y Fforwm ym mis Mai.
Parhaodd Reshma: "Dangosodd llawer o ymatebion mai'r peth pwysicaf i'r gymuned ar hyn o bryd yw ein bod yn cymryd camau i sicrhau bod ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd yn cael eu hybu a'u cefnogi ar y lefelau uchaf ar draws llywodraeth, y GIG ac yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rydym yn clywed yr adborth hwnnw a dyma fydd y flaenoriaeth ar gyfer ein sesiynau ym mis Tachwedd."
Mae Cynllun Gweithredu Darganfod Eich Rôl ym Maes Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gyhoeddwyd yn 2020, yn nodi camau i'w cymryd ar draws saith maes pwyslais i wella gwaith ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd.
Mewn ymateb i'r adborth o'r arolwg hwn, bydd y Fforwm nesaf yn archwilio Maes Pwyslais 2 y Cynllun Gweithredu, sy'n ystyried ffyrdd o sicrhau cefnogaeth lefel uwch ar gyfer cynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Bydd amryw o siaradwyr a fydd yn archwilio'r pwnc hwn yn fanwl dros ddwy sesiwn o’r Fforwm, yn ogystal â diweddariadau gan y ddau weithgor gweithredol sy'n canolbwyntio ar y strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd newydd ac ar fynd i'r afael â rhwystrau gweinyddol i gynnwys y cyhoedd.
Cysylltwch â'r tîm Cynnwys y Cyhoedd drwy e-bost os hoffech gael eich ychwanegu at restr bostio'r Fforwm a bod y cyntaf i wybod pryd y cyhoeddir y rhaglen a phryd bydd y cofrestru yn agor.
Os gwnaethoch chi fethu’r digwyddiad cyntaf, gallwch weld y cyflwyniadau o’r Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd ym mis Mai.