Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru Symposiwm Rhoi Tystiolaeth COVID ar Waith
Thema - Effaith y pandemig COVID-19 ar addysg, plant a phobl ifan
Mae’n bleser gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru gyhoeddi y cynhelir symposiwm cyntaf rhoi tystiolaeth Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC) ar waith ar 7 Rhagfyr 2021.
Yn y digwyddiad hwn, fe fyddwch chi’n clywed am ddarganfyddiadau adolygiadau cyflym WCEC o dystiolaeth am effaith COVID-19 ar blant, pobl ifanc, addysg a sefydliadau addysg, ac yn ymuno â’r drafodaeth i nodi ffyrdd y gellir symud y rhain ymlaen i ddod yn rhan o bolisi ac arfer.
Ymhlith y siaradwyr fydd:
- Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
- Eluned Morgan AS: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Helen Morgan, Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu
- Deborah Edwards, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
- Liz Gillen, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
- Chukwudi Okolie, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Judit Csontos, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
- Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru
Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn yw 17:00 ar 30 Tachwedd 2021.
-
Ar-lein