Yr Athro John Wagstaff yn agoriad yr ystafell treialon clinigol newydd yn Ysbyty Singleton

Canolfan ymchwil canser newydd Bae Abertawe yn rhoi hwb i allu oncoleg Cymru

27 Mehefin

Mae ein Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi Cenedlaethol, Dr Nicola Williams, wedi canmol lansio swît glinigol newydd yn Ysbyty Singleton Abertawe a fydd yn cynnal amrywiaeth o dreialon oncoleg a haematoleg.

Am y tro cyntaf, mae gan y tîm ymchwil arobryn sydd wedi helpu i chwyldroi triniaethau canser ledled y byd, ac sydd wedi’i leoli yn Sefydliad Canser Singleton, le pwrpasol i gleifion sy’n cymryd rhan mewn treialon.

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cefnogi twf ymchwil canser yn y bwrdd iechyd.

Mae’r swît glinigol newydd yn cynnwys dwy ystafell arbenigol. Mae gan un ystafell bedair cadair driniaeth ar gyfer cleifion sy’n cymryd rhan mewn gwahanol dreialon. Mae’r ystafell arall yn darparu ardal breifat ar gyfer archwilio ac asesu cleifion, a thrafodaethau unigol.

Mae’r lleoliad newydd hwn yn sicrhau bod cleifion sy’n cymryd rhan yn y treialon hyn yn cael eu gweld mewn un lleoliad cyfleus.

Dywedodd Dr Williams, "Mae lansio’r lleoliad treialon clinigol newydd hwn yn Ysbyty Singleton yn enghraifft arall o bwysigrwydd cynyddol ymchwil mewn ysbytai yma yng Nghymru.

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymhlith llawer o fyrddau iechyd sydd â lleoedd pwrpasol erbyn hyn, i sicrhau y gallwn ni wneud cyfraniadau sylweddol i astudiaethau cenedlaethol a byd-eang, gan ein cadw ar y blaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol."

Agorodd yr Athro John Wagstaff, oncolegydd meddygol sydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant ymchwil canser Abertawe ers 2003 ac sydd erbyn hyn yn Athro Emeritws Oncoleg ym Mhrifysgol Abertawe, y swît treialon clinigol newydd.

Darllenwch fwy am y swît treialon clinigol newydd yn Ysbyty Singleton.