#CochDrosYmchwil

#CochDrosYmchwil

Mae #CochDrosYmchwil yn ôl

Ar y rheng flaen a thu ôl i'r llenni, mae timau ymchwil anhygoel yn parhau i weithio ar ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae COVID-19 wedi ein gorfodi i wneud pethau’n wahanol, i fod yn fwy arloesol, hyblyg a mwy ymatebol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r gymuned Ymchwil a Datblygu mewn cydweithrediad â'r sectorau iechyd a gofal a sefydliadau gwirfoddol wedi cyflawni gymaint.

Nod Diwrnod #CochDrosYmchwil yw cael cymaint o bobl â phosibl i wisgo coch i ddangos eu cefnogaeth a’u gwerthfawrogiad i bawb sy’n cyfranogi, cynnal ac yn cefnogi ymchwil COVID-19 ac ymchwil arall. Mae’n gyfle i arddangos y gwaith aruthrol, yr etifeddiaeth ddysgu a’r system/ technegau ymchwil arloesol newydd sydd wedi eu datblygu. Ni fyddai unrhyw un o'r rhain yn bosibl heb yr holl bobl sy'n cyfranogi - pobl sy'n gwneud i ymchwil ddigwydd.

Mae #CochDrosYmchwil yn hollol gynhwysol – gall unrhyw un, unrhyw oedran, unrhyw le, gymryd rhan – plant, oedolion, hyd yn oed anifeiliaid anwes! Mae'r cysyniad yn syml iawn. Gwisgwch unrhyw dilledyn cyn belled â’i fod yn goch, lawrlwythwch/argraffwch neu gwnewch hysbyslen yn dweud #CochDrosYmchwil, tynnwch lun a’i bostio ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #CochDrosYmchwil. Mae #CochDrosYmchwil yn ymwneud â phositifrwydd, creadigrwydd a chefnogaeth yn wyneb adfyd. Gobeithio y bydd pobl yn cael ychydig o hwyl wrth wneud hyn, ac yn codi proffil ymchwil.

Buasem wrth ein bodd gweld eich lluniau, felly nodwch #YmchwilYnAchubBywydau at eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol a byddwn ni yn eu rhannu hefyd.


 

-

Everywhere