Map cyflym o dystiolaeth sydd ar gael ar effeithiolrwydd canolfannau diagnostig cymunedol

Mae’r pandemig COVID-19 wedi arwain at alw cynyddol am wasanaethau diagnostig ac at oedi â’r rhain. Nod canolfannau diagnostig cymunedol (y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel Hybiau Diagnostig Rhanbarthol yng Nghymru) yw lleihau’r ôl-groniad hwn a’r amseroedd aros ar gyfer cleifion trwy ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau diagnostig dewisol yn y gymuned, i ffwrdd o gyfleusterau ysbyty acíwt. Gan fod gwasanaethau diagnostig yn cyfrif am dros 85% o lwybrau clinigol a gan fod hyn yn costio dros £6 biliwn y flwyddyn i’r GIG (GIG 2022), fe allai canolfannau diagnostig ar draws amrywiaeth eang o wasanaethau diagnostig fod yn gyflwyniad effeithiol, effeithlon a chost-effeithiol i sector iechyd y DU.

Nod y Map Cyflym o Dystiolaeth hwn oedd nodi, disgrifio a mapio’r dystiolaeth sydd ar gael o effeithiolrwydd canolfannau diagnostig.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
REM00043