Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu adroddiad newydd ar werth treialon clinigol y diwydiant i'r DU
21 Medi
Mae ein Cyfarwyddwr, yr Athro Kieran Walshe, wedi croesawu adroddiad a gomisiynwyd gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (yr ABPI) yr wythnos hon, sy'n tynnu sylw at gyfraniad gwerth biliynau o bunnoedd treialon clinigol y diwydiant i economi'r DU.
Mae'r adroddiad, 'Gwerth treialon clinigol y diwydiant i'r DU', yn esbonio sut mae buddsoddiad y diwydiant yn sbarduno twf economaidd, swyddi, a buddion system iechyd ehangach. Mae data newydd yn dangos bod treialon clinigol y diwydiant wedi cynhyrchu gwerth ychwanegol gros o £7.4 biliwn i economi'r DU yn 2022, gan greu 65,000 o swyddi. Elwodd y GIG hefyd o £1.2 biliwn mewn refeniw uniongyrchol o dreialon clinigol, gyda 13,000 o gyfanswm y swyddi wedi'u lleoli yn y GIG.
Roedd buddion anariannol ehangach i'r GIG hefyd o gynnal treialon clinigol y diwydiant. Roedd Ymddiriedolaethau'r GIG sy'n cymryd rhan mewn ymchwil yn tueddu i fod â chyfraddau marwolaethau is, tuedd a barhaodd hyd yn oed ar ôl cyfrif am wahaniaethau staffio a chyfleusterau. Yn ogystal, gwelodd lleoliadau prawf y GIG arosiadau byrrach yn yr ysbyty i gleifion a phrofiadau gofal cleifion gwell. Roedd cymryd rhan mewn ymchwil hefyd yn codi boddhad swyddi ymhlith clinigwyr.
Fodd bynnag, mae'r ABPI yn dadlau bod potensial ar gyfer buddion sylweddol uwch. Mae treialon clinigol y diwydiant wedi bod yn dirywio yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, pe bai gweithgarwch treialon clinigol yn dychwelyd i lefelau tebyg i 2017, cynnydd o 40 y cant ers 2022, gallai'r buddion i'r DU fod hyd yn oed yn fwy. Byddai £3 biliwn ychwanegol yn cael ei gyfrannu at yr economi, gan gynnwys £486 miliwn yn ychwanegol o refeniw i'r GIG. Byddai hyn yn cefnogi 26,000 mwy o swyddi, gan gynnwys 5000 yn fwy yn y GIG. Er mwyn cyflawni'r potensial sylweddol hwn, mae'r ABPI yn gofyn i'r llywodraeth ehangu mynediad cleifion ymhellach at dreialon clinigol y diwydiant trwy'r canlynol:
- Dod â'r ddeddfwriaeth treialon clinigol sy'n weddill, ers i'r DU adael yr UE, yn gyfraith. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn rhoi sicrwydd i gwmnïau ar sut i weithredu yn y DU.
- Cyflymu'r gwaith o gyflawni argymhellion adolygiad O'Shaughnessy a buddsoddi o leiaf £60 miliwn ychwanegol y flwyddyn mewn capasiti gweithlu ac ysgogi ymchwil glinigol y diwydiant mewn gofal sylfaenol, ochr yn ochr â'r £300 miliwn y bydd diwydiant yn ei gyfrannu at hybu cyflenwi treialon drwy'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Rhaglen Fuddsoddi Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau.
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio gyda'n partneriaid yn y diwydiant i hyrwyddo datblygiadau fferyllol a thechnolegol blaengar trwy dreialon clinigol. Yng Nghymru, mae gennym gynllun i ehangu ein cyfraniad i'r agenda hanfodol hwn, a fydd yn y pen draw yn sicrhau manteision gwirioneddol i ofal iechyd a gofal cleifion, yn ogystal â bod o fudd i'r economi".
Dywedodd Richard Torbett, Prif Weithredwr ABPI: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir y manteision ariannol a chymdeithasol y mae treialon clinigol y diwydiant yn eu cynnig i'r economi, y GIG ac i Ymchwil a Datblygu yn y Deyrnas Unedig.
"Mae cynyddu twf a chynhyrchiant a gwella iechyd a lles poblogaeth y DU ill dau yn hanfodol. Bydd sicrhau bod y DU yn y cyflwr gorau i ddenu mwy o dreialon clinigol byd-eang y diwydiant yn gwneud cyfraniad mawr at y llywodraeth i gyflawni'r nodau hyn."