Cyhoeddi gwaith partneriaeth gyda'r Ganolfan Tegwch Ymchwil
27 Mehefin
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn datblygu partneriaeth gyda'r Ganolfan ar gyfer Tegwch Ymchwil fel rhan o'i raglen ehangach i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymchwil.
Dan arweiniad yr Athro Mahendra Patel, mae'r Ganolfan ar gyfer Tegwch Ymchwil wedi'i lleoli yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen a'i nod yw gwella ymgysylltiad cymunedol ac arfer ymchwil cynhwysol ledled y DU trwy gydweithio â'r gwledydd datganoledig.
Bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar rannu arfer da ynghylch recriwtio a chynllunio treialon yn y gymuned, gan ddarparu cefnogaeth i staff ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gynyddu tegwch iechyd, ac adeiladu'r sylfaen dystiolaeth o amgylch penderfynyddion anghydraddoldebau iechyd.
Dywedodd Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Adeiladu partneriaethau a rhannu syniadau ac arbenigedd yw sylfaen ymgysylltu cymunedol da, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Ganolfan ar gyfer Tegwch Ymchwil i gefnogi ein gwaith presennol i feithrin mwy o gynwysoldeb yn yr agenda ymchwil, sy'n helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethau iechyd a gofal ledled Cymru."
Dywedodd Yr Athro Mahendra Patel, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Tegwch Ymchwil: "Rydym wrth ein bodd gyda'r bartneriaeth gyffrous ac arloesol hon gyda Chymru i nodi cam sylweddol ymlaen wrth gydnabod pwysigrwydd tegwch ymchwil fel ffordd o wella anghydraddoldebau iechyd a gofal. Gall cefnogi ymgysylltiad ystyrlon â chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ac sydd wedi’u hymyleiddio ledled y wlad helpu i sicrhau bod y dystiolaeth a gesglir yn ddiogel ac yn effeithiol i’r boblogaeth gyfan, nid dim ond rhai dethol."
Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.