rhywun sy'n defnyddio gliniadur

Cyfleoedd ar hyn o bryd

Yn chwilio am gyfle newydd i helpu ymchwilwyr yng Nghymru? Mae’r cyfleoedd diweddaraf ar gyfer aelodau o’r cyhoedd wedi’u rhestru isod. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi  neu fwy o gefnogaeth ag ymgeisio am gyfleoedd, mae croeso ichi gysylltu â’r tîm ar 02920 230457 neu anfonwch e-bost atom ni.

Sylwch y bydd angen ichi fod wedi cofrestru â’r gymuned gynhwysol a darllen y cytundeb cynnwys y cyhoedd cyn mynegi’ch diddordeb.

Mae cyfleoedd cynnwys wedi’u trefnu yn ôl categorïau coch, glas a gwyrdd. Rydyn ni wedi datblygu canllawiau i’ch helpu chi i benderfynu pa gategori cyfleoedd sydd fwyaf addas i’ch gofynion a’ch profiad chi.