sganiau'r ymennydd

Cyllid newydd i helpu ymchwil arloesol i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru

12 Mehefin

Mae cronfa newydd wedi cael ei sefydlu ar gyfer ymchwil i diwmorau’r ymennydd a fydd yn dwyn ynghyd arweinwyr academaidd a chlinigol i feithrin cymuned ffyniannus i ymchwilio i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru.

Mae Dr James Powell, Academig Clinigol yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru (CYCC) a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi cael ei benodi’n Arweinydd Clinigol ar gyfer Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI).

Cronfa ymchwil newydd i diwmorau’r ymennydd yw BATRI. Fe’i sefydlwyd gan Ymchwil Canser Cymru, i ddarparu £1 filiwn bob blwyddyn i gefnogi ymchwil i diwmorau’r ymennydd a thiwmorau eraill y system nerfol ganolog yng Nghymru am y tair blynedd nesaf.  

Dywedodd Dr Powell: “Rwy’n falch o fod yn arwain y fenter genedlaethol wych hon a fydd yn ein galluogi i ddatblygu ymchwil newydd ac arloesol i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymdrechion yn cefnogi canlyniadau gwell i gleifion sydd â thiwmorau’r ymennydd.

“Bob blwyddyn yng Nghymru, mae mwy na 400 o bobl yn datblygu tiwmor ar yr ymennydd ond, yn anffodus, ychydig iawn o driniaethau newydd sydd wedi cael eu datblygu yn ystod y 40 mlynedd diwethaf.

“Gyda’r gefnogaeth sylweddol hon gan Ymchwil Canser Cymru, mae gennym ni gyllid hollbwysig, cynaliadwy nawr i ddyrchafu ymchwil i diwmorau’r ymennydd i lefel genedlaethol a gwneud cynnydd gwirioneddol.” 

Mae ymchwil i diwmorau’r ymennydd wedi cael ei thanariannu yn y gorffennol, gan dderbyn llai na dau y cant o’r cyllid blynyddol ar gyfer ymchwil i ganser yn y DU.

Ar hyn o bryd, mae Dr Powell yn arwain Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol CYCC (MDRG) ar gyfer canser yr ymennydd ar y cyd â Dr Florian Siebzehnrubl, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Bôn-gelloedd Ewropeaidd. Gyda’i gilydd, maent yn dod ag arbenigwyr i drafod a chydweithio ar syniadau ymchwil sy’n cyd-fynd â Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt).

Ychwanegodd Dr Powell: “Mae Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd yn adeiladu ar lwyddiant y Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol drwy fabwysiadu dull cydgysylltiedig, strategol a chenedlaethol o flaenoriaethu ymchwil i diwmorau’r ymennydd. Byddwn wedyn yn rhoi cyllid i brosiectau sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at roi’r fenter hon ar waith ac yn gobeithio y bydd y cyllid newydd hwn yn cynnig cymorth a chyfleoedd gwirioneddol i ymchwilwyr yng Nghymru ddatblygu eu rhaglenni ymchwil a dod yn arweinwyr byd-eang ym maes ymchwil i diwmorau’r ymennydd.” 

Bydd BATRI yn ariannu ymchwil i diwmorau’r ymennydd ar draws pum thema eang sy’n ceisio cwmpasu’r ystod lawn o gyfleoedd ymchwil yn y maes hwn. Bydd galwadau am gyllid yn agor ddwywaith y flwyddyn, gydag ymchwilwyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno cynigion newydd ac arloesol ar gyfer ymchwil i diwmorau’r ymennydd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar y wefan.

Dr James Powell
Dr James Powell