
Cynhadledd Hyfforddiant ar Wyddoniaeth yn y maes Diogelu Iechyd 2021
Ymunwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i glywed am y gwaith gwyddonol a wneir mewn ymateb i’r epidemig COVID-19 a’r materion diogelu iechyd pwysig sydd bellach yn ein hwynebu. Bydd arbenigwyr gwyddonol yn trafod sut y gellir defnyddio’r gwersi a ddysgwyd a’r gwaith arloesol yn sgil COVID-19 i fynd i’r afael â meysydd eraill o iechyd y cyhoedd, canlyniadau anfwriadol COVID-19 a’r meysydd y dylem ganolbwyntio arnynt ar gyfer y dyfodol.
Y meysydd dan sylw yw:
- Rôl genomeg
- Brechlynnau
- Brigiadau o COVID-19
- Dysgu o batrymau ymddygiad
- Effeithiau anuniongyrchol y pandemig
Cyhoeddir enwau’r siaradwyr maes o law.
I gofrestru, e-bostiwch: Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn anfon dolen i’r gynhadledd atoch yn nes at yr amser.
-
Ar-lein