Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021
Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021: Dysgu ac Edrych Ymlaen.
Ar 14 Hydref 2021 cynhaliwyd ein 7fed cynhadledd yn canolbwyntio ar y thema 'Dysgu ac Edrych Ymlaen' - Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran.
Os na lwyddoch i fynychu’r digwyddiad yn fyw, neu os hoffech wylio unrhyw beth eto, rydym wedi cofnodi'r holl sesiynau llawn a sesiynau cyfochrog.
Plenaries
- Ymchwil iechyd a gofal: dysgu o’r pandemig
-
Gwybodaeth Sesiwn
Bydd y sesiwn hon yn dwyn ynghyd safbwyntiau a phrofiadau yn ymwneud â sut y mae ymchwil wedi cyfrannu at y pandemig, a'r hyn a ddysgwyd i ddylanwadu ar ddyfodol ymchwil ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chadeirio gan Professor Kieran Walshe.
Siaradwyr
Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
Eluned Morgan MS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Iain Bell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymchwil, arloesi a gwella
-
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Jon Glasby a Dr Sarah Jenkins - Improving adult social care
Cyflwyniad i Siaradwyr - Tom James - The NHS Wales COVID-19 Innovation and Transformation Study
Cyflwyniad i Siaradwyr - Dr Alyson Rees – ExChange Wales
Gwybodaeth Sesiwn
Bydd ysgogi gwybodaeth, cydweithio a dod o hyd i ffyrdd trawsnewidiol o weithio yn allweddol ar gyfer cynllunio yn y dyfodol yn y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd y sesiwn hon yn arddangos datblygiad newydd ledled y DU ym maes gofal cymdeithasol a fydd yn cefnogi’r sector gofal cymdeithasol i oedolion i wneud y defnydd gorau o dystiolaeth er mwyn troi hynny'n ymarfer. Byddwch hefyd yn clywed am yr adroddiad a gyhoeddwyd yr haf hwn - 'astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 GIG Cymru' sy'n crynhoi gwersi a ddysgwyd ac ymarfer newydd yn GIG Cymru sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i COVID-19.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chadeirio gan Jan Lawrence.
Siaradwyr
Jan Lawrence, Cadeirydd, Panel Blaenoriaethu Cymru Gyfan
Dr Sarah Jenkins, Arweinydd Cymru ar gyfer Canolfan Gwella Gofal Oedolion Gyda'n Gilydd (IMPACT)
Yr Athro Jon Glasby, Cyfarwyddwr, Canolfan Gwella Gofal Oedolion Gyda'n Gilydd (IMPACT)
Tom James, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Dr Alyson Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE)
- Adfer a dysgu: syniadau newydd wrth ddarparu gofal iechyd
-
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Chris Salisbury – New ideas in primary health care delivery
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Helen Snooks - Recovery and learning: The role of research
Gwybodaeth Sesiwn
Bydd y sesiwn hon yn tynnu sylw at sut mae arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn bwysig yn ystod y pandemig, ac yn gyfle i glywed am ddulliau newydd ar draws gofal sylfaenol a brys.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chadeirio gan Dr Andrew Goodall.
Siaradwyr
Dr Andrew Goodall CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru
Yr Athro Chris Salisbury, Athro Gofal Iechyd Sylfaenol, Prifysgol Bryste
Yr Athro Helen Snooks, Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd, Prifysgol Abertawe
Parallel sessions
- Mentrau newydd mewn ymchwil
-
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Donald Forrester - Developing social care research capacity
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Christopher George - National Cardiovascular Research Network for Wales
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Charles Musselwhite and Dr Sarah Jones - The Transport and Health Integrated Research Network
Gwybodaeth Sesiwn
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi buddsoddi mewn nifer o fentrau newydd cyffrous. Mae'r sesiwn hon yn arddangos rhai ohonynt ac yn rhoi cyfle ichi glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n eu harwain.
Mae'r mentrau dan sylw yn rhychwantu cylch gwaith ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda chyflwyniadau a chyfleoedd Holi ac Ateb yn ymwneud â: meithrin gallu academaidd mewn gofal cymdeithasol; clefyd cardiofasgwlaidd a chyflyrau cysylltiedig; a datblygu rhwydwaith i archwilio'r cysylltiad rhwng trafnidiaeth ac iechyd.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chadeirio gan Michael Bowdery.
Siaradwyr
Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Yr Athro Donald Forrester, Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant
Yr Athro Christopher George, Cadeirydd, Rhwydwaith Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol Cymru
Yr Athro Charles Musselwhite, Cyd-gyfarwyddwr, Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)
Dr Sarah Jones, Cyd-gyfarwyddwr, Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)
- Datblygiadau mewn ymchwil canser
-
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Anthony Byrne - Developments in cancer research: supportive and palliative care
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Mererid Evans - Developments in cancer research - viruses, vaccines and radiotherapy
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Awen Gallimore - Cancer Immunology: opening new doors for cancer treatment
Gwybodaeth Sesiwn
Bydd y sesiwn hon yn arddangos y sefyllfa bresennol o ran ymchwil canser yng Nghymru ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar ddod a'r cyfeiriad yn y dyfodol.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chadeirio gan Yr Athro Tom Crosby.
Siaradwyr
Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru
Yr Athro Anthony Byrne, Cyfarwyddwr Clinigol, Gofal Lliniarol Marie Curie
Yr Athro Mererid Evans, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Canolfan Ganser Felindr
Yr Athro Awen Gallimore, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd
- Cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb
-
Cyflwyniad i Siaradwyr - Dr Esther Mukuka - Embedding equality, diversity and inclusion in the NIHR’s systems, processes and culture (Additional information: Improving inclusion of under-served groups in clinical research: Guidance from INCLUDE project)
Cyflwyniad i Siaradwyr - Dr Ashra Khanom and Hamed Ghanbari - Inclusion, diversity, and equality in research
Gwybodaeth Sesiwn
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi peri i bob un ohonom fireinio ein pwyslais ar anghydraddoldeb, felly mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn awyddus i wneud cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb yn flaenoriaeth yn ein ffordd o feddwl a'n cymuned ymchwil.
Bydd y sesiwn hon yn gyfle i glywed pam mae croesawu cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol ar gyfer ymchwil iechyd a gofal effeithiol. Mae'n rhoi cyfle i glywed am brofiad ymchwilwyr yng Nghymru a datblygiadau sy'n digwydd yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd. Bydd y gynulleidfa hefyd yn clywed enghraifft achos go iawn o Gymru yn ymwneud â sut i sicrhau bod cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb yn cael eu trafod drwy raglenni gwaith.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chadeirio gan Dr Roiyah Saltus.
Siaradwyr
Dr Roiyah Saltus, Prif Gymrawd Ymchwil, Prifysgol De Cymru
Dr Esther Mukuka, Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd
Dr Ashra Khanom, Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Abertawe
- Genomeg a chyfeiriad ymchwil iechyd yn y dyfodol
-
Cyflwyniad i Siaradwyr - Yr Athro Tom Connor - Pathogen genomics: from research to service and beyond
Cyflwyniad i Siaradwyr - Dr Andrew Fry – Genomics and the future direction of health research
Cyflwyniad i Siaradwyr - Sian Morgan - Genomics and the future direction of health research: All Wales Medical Genomics Service
Gwybodaeth Sesiwn
Mae'r cyfnod genomeg wedi cyrraedd a bydd yn cael effaith drawsnewidiol ar iechyd a lles personol. Bydd y sesiwn hon yn trafod yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru a thu hwnt, a'r cyfleoedd posibl yn y dyfodol.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chadeirio gan Dr Rob Orford.
Siaradwyr
Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd
Yr Athro Tom Connor, Arweinydd Biowybodeg, Uned Genomeg Pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Andrew Fry, Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Geneteg Feddygol, Prifysgol Caerdydd
Sian Morgan, Pennaeth Labordy Geneteg Cymru Gyfan, Partneriaeth Genomeg Cymru
Gwobrau
Gallwch ddarllen mwy am y gwahanol wobrau a'u henillwyr ar ein stori newyddion ar ôl y gynhadledd.
- Gwobr Effaith
-
Enillydd: OBS Cymru
Derbyniodd Dr Sarah Bell, anaesthetydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y Wobr Effaith, ar ran prosiect Strategaeth Gwaedu Obstetreg (OBS) Cymru. This Award recognises the difference Welsh health and social care research is making to people’s everyday lives.
Canmoliaeth Uchel
- Prediction of Risk and Communication of outcomes following major lower limb amputation, a collaborative study (PERCEIVE), dan arweiniad David Bosanquet, Canolfan Ymchwil Treialon
- Early Warning Wearable Device and Virtual Reality-based Rehabilitation (EWWD Project), dan arweiniad Mohammad Al-Amri, Prifysgol Caerdydd
- Shared decision making in rare disease in the United Kingdom, dan arweiniad Dr Natalie Joseph-Williams, Canolfan PRIME Cymru.
- Gwobr Seren Ymchwil y Dyfodol
-
Enillydd: Dr Emily Holmes
Rhoddwyd Gwobr Seren Ymchwil Rising 2021 i Dr Emily Holmes, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Arfarnu Economeg a Meddyginiaethau Iechyd (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r wobr hon ar gyfer unigolion yng nghyfnod cynnar eu gyrfa ymchwil, sydd eisoes yn gwneud cyfraniad rhagorol i'w maes ac yn datblygu fel arweinwyr sy'n datblygu yn y dyfodol.
Canmoliaeth Uchel
- Rhiannon Owen, Athro Cysylltiol Ystadegau ym Mhrifysgol Abertawe
- Dr Victoria Shepherd, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd
- Dr Aimee Grant, Uwch Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe
- Gwobr Cynnwys y Cyhoedd
-
Enillydd: The Dementia and Diversity Project
Dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd 2021 i'r Prosiect Dementia ac Amrywiaeth, sy'n cydnabod y defnydd gorau o gynnwys y cyhoedd i helpu i lunio ymchwil.
Derbyniodd Dr Sofia Vougioukalou, Cymrawd Ymchwil yn Y Lab, labordy arloesi gwasanaethau cyhoeddus Prifysgol Caerdydd, y wobr ar ran y prosiect.
Canmoliaeth Uchel
- Talking Trials project, cyd-arweinir gan Sarah Bridges a Martina Sobodova, Canolfan Ymchwil Treialon