Two women sat at table discussing research

Cynllun Ariannu Integredig Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - cyfleoedd aelodaeth o baneli a byrddau ariannu

9 Chwefror

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan unigolion sy'n dymuno dod yn aelod o baneli a byrddau ariannu'r Cynllun Ariannu Integredig ar gyfer:

Mae Cangen 1 yn cefnogi ymchwil drosi trwodd i ymchwil glinigol yn y cam diweddarach, gan ganolbwyntio ar ymchwil sy’n mynd i’r afael â diagnosis, atal ac ymyrraeth gynnar, datblygu triniaethau neu wella triniaethau ar gyfer clefydau a chyflyrau sy’n effeithio ar bobl yng Nghymru, neu sy’n arbennig o berthnasol iddynt.

Mae Cangen 2 yn ariannu ymchwil sy’n canolbwyntio ar drefnu a darparu gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol neu faterion iechyd y cyhoedd, gan gynnwys atal ac iechyd y boblogaeth, sy’n bwysig yng Nghymru.

Er mwyn cynnal cydbwysedd priodol o arbenigedd methodolegol a phynciau penodol, mae gennym ddiddordeb ar hyn o bryd mewn recriwtio ymchwilwyr academaidd, clinigol a chymhwysol sydd â diddordeb mewn ymchwil drosi a chlinigol, gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd.

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen ar-lein erbyn 30 Mawrth 2024.

Bydd y Tîm Grantiau Prosiect yn cysylltu ag ymgeiswyr dethol gyda manylion ychwanegol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm.

Gwybodaeth gefndir

  • Mae deiliadaeth aelodau Paneli a Byrddau Ariannu am gyfnod cychwynnol o 24 mis ac yna byddant yn cael eu hadolygu tua diwedd y tymor hwn pan fydd yn cael ei adnewyddu o bosibl am gyfnod pellach o flwyddyn neu ddwy. Yn nodweddiadol, mae'r rôl yn cynnwys mynychu cyfarfodydd (ar-lein ac yn bersonol) hyd at bedair gwaith y flwyddyn.
  • Mae'r Paneli a'r Byrddau Ariannu yn adolygu ceisiadau ymchwil a gyflwynir i'r Cynllun Ariannu Integredig ac yn gwneud argymhellion i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
  • Disgwylir i aelodau fynychu cyfarfodydd a chwarae rhan lawn yn yr asesiad o'r holl geisiadau. Yn ogystal, disgwylir i aelodau gynnal adolygiad o geisiadau penodedig, cyflwyno adolygiadau ysgrifenedig a gweithredu fel Aelod Panel a Bwrdd Dynodedig ar gyfer is-set o geisiadau, gan eu cyflwyno i'r Panel a'r Bwrdd Ariannu i'w trafod.

Bydd cyfarfodydd nesaf y Panel a'r Bwrdd Ariannu yn cael eu cynnal ym mis Mehefin a Rhagfyr 2024.